Britheg berlog fach
From Wikipedia, the free encyclopedia
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg berlog fach, sy'n enw bendywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion perlog bach; yr enw Saesneg yw Small Pearl-bordered Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Boloria selene.[1][2] Mae'r glöyn hwn, sy'n hynod o debyg i'r fritheg berlog i'w ganfod ledled Ewrop ac Asia hyd at Corea; fe'i ceir hefyd yng Ngogledd America.
Ffeithiau sydyn Statws cadwraeth, Dosbarthiad gwyddonol ...
Britheg berlog fach | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Heb ei werthuso (IUCN 3.1) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Boloria |
Rhywogaeth: | B. selene |
Enw deuenwol | |
Boloria selene (Denis & Schiffermüller, 1775) | |
Cau
Yng ngwledydd Prydain mae i'w weld yn y gwledydd Celtaidd ac yn Ardal y Llynnoedd; mae'r niferoedd yn Lloegr, fodd bynnag, yn gostwng yn flynyddol.