Baner Saint Martin
baner / From Wikipedia, the free encyclopedia
Baner Cymuned Saint Martin Ffrengig Ffrengig yw baner Ffrainc. Mae Cymuned Saint Martin Ffrengig yn rhan o gymuned Ffrainc fel collectivité d'outre-mer (COM). Mae'r gymuned Ffrangeg yn rhannu Ynys Saint Martin gyda Sint Maarten, sy'n rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd. Mae'r ynys wedi ei lleoli yn yr Antilles ym Môr y Caribî.
Ceir dwy baner answyddogol, un sy'n arddangos arfbais y gymuned ar faes gwyn. Ceir hefyd baner mwy gyfoes sydd, ymddengys wedi ei defnyddio ers yr 1900au ond mae gwybodaeth amdanni'n annelwig.[2] Mae'r faner yn arddel maes glas gyda triongl gwyn yn disgyn o'r brig ac yn cyffwrdd gwaelod y faner i greu siâp 'Y'. Yn y canol ceir triongl coch ac uwchlaw hanner disg melyn sy'n dybiedig yno i ddarlunio haul yn codi ar y gorwel.
Ceir hefyd faner, sydd mewn gwirionedd yn logo wedi ei rhoi ar luman, ar gyfer Collectivité' de Saint-Martin, sef y llywodraeth leol. Mae'n cynnwys enw'r ynys a'r geiriau "Saint-Martin Caraïbe Français French Caribbean" gyda rhuban yn rhannol amgylchynu'r geiriau. Mae rhan uchaf y rhuban yn dilyn siap arfordir gogledd yr ynys ac mewn gwyrdd, tra fod gweddill y rhuban mewn glas gan amlinellu yn fras, ochr orllewinnol yr ynys.
Bydd rhai hefyd yn defnyddio Arfbais Saint Martin fel baner o fath i'r Gymuned.