From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad ac athroniaeth fyd-eang sy'n haeru dylai unigolion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol bod yn falch o'u cyfeiriadedd rhywiol ac hunaniaeth ryweddol yw balchder hoyw neu falchder LHDT. Gweithir eiriolwyr balchder hoyw dros "hawliau a buddion" cyfartal ar gyfer pobl LHDT.[1][2][3] Mae tri phrif rhagosodiad gan y mudiad: dylai pobl fod yn falch o'u cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth ryweddol, taw anrheg yw amrywiaeth rhywiol, a bod cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth ryweddol yn reddfol ac ni allent gael eu newid yn fwriadol.[4] Yn aml, defnyddir y talfyriadau "balchder hoyw" a "balchder" fel ymadroddion sy'n cynnwys holl unigolion yn y cymunedau LHDT.
Defnyddir y gair "balchder" fel gair sy'n golygu'r gwrthwyneb i gywilydd, sydd wedi cael ei ddefnyddio er mwyn gorthrymu a rheoli pobl LHDT ar hyd yr oesau. Yn y cyd-destun hwn, mae balchder yn dynodi hapusrwydd a boddhad yr unigolyn o ran pwy ydynt ac ar ran y gymuned yn ei chyfanrwydd. Dechreuodd yr holl fudiad "balchder" modern ar ôl Terfysgoedd Stonewall ym 1969. Yn hytrach nag ildio i gyrchoedd anghyfansoddiadol Heddlu Efrog Newydd, dechreuodd y bobl hoyw mewn bariau lleol ymladd yn ôl. Er ei fod yn sefyllfa treisgar, creodd deimlad o falchder ymysg y gymuned cudd hwn a chafodd y digwyddiad lawer o gyhoeddusrwydd. O'r orymdaith flynyddol a ddathlodd dyddiad terfysgoedd Stonewall, dechreuodd fudiad cenedlaethol newydd. Erbyn heddiw, mae nifer o wledydd ledled y byd yn dathlu balchder LHDT. Mae'r mudiad balchder wedi hybu materion LHDT drwy lobïo gwleidyddion, cofrestru etholwyr a chynyddu ymwybyddiaeth pobl o faterion sy'n bwysig i'r gymuned LHDT. Mqe ymgyrchwyr LHDT yn brwydro am "hawliau a budd-daliadau" cyfartal ar gyfer pobl LHDT.
Cynhelir gorymdeithiau i ddathlu balchder hoyw ar draws y byd. Mae symbolau balchder LHDT yn cynnwys y faner enfys, y symbol Groeg lambda, a'r trionglau pinc a du a adferwyd o'u cyn-ddefnydd fel bathodynnau mewn gwersylloedd crynhoi Natsïaidd.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.