Atropa belladonna
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn llysieuaidd lluosflwydd gwenwynol yw Atropa belladonna, hefyd a elwir yn Codwarth[1] yn Gymraeg (Saesneg: Belladonna a Deadly nightshade). Mae'n perthyn i'r teulu Solanaceae,[2] sydd hefyd yn cynnwys tomatos, tatws, ac wylysiau. Mae'n gynhenid i Ewrop a Gorllewin Asia, gan gynnwys Twrci. Mae'r amrywiaeth fwyaf i'w chael yng nghanolbarth a de America, fodd bynnag.
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Atropa belladonna | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Urdd: | Solanales |
Teulu: | Solanaceae |
Genws: | Atropa |
Rhywogaeth: | A. deltoidea |
Enw deuenwol | |
Atropa belladonna Carolus Linnaeus | |
Cau
Mae'r dail ac aeron yn wenwynol iawn i'w bwyta oherwydd eu bod yn cynnwys alcaloid tropên.[2][3][4][5] Mae'r tocsinau hyn yn cynnwys atropin, sgopolamin, ac hyosÿamin, sy'n achosi deliriwm a rhithweledigaethau,[2][3][4][6][7] a hefyd a ddefnyddir yn wrthgolinergigau fferyllol.[2]