From Wikipedia, the free encyclopedia
Pêl-droediwr o'r Iseldiroedd ydy Arjen Robben (ganwyd 23 Ionawr 1984) sy'n chwarae i glwb Bayern Munich yn y Bundesliga yn Yr Almaen ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Yr Iseldiroedd.
Robben yn chwarae i Bayern Munich yn 2012 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Arjen Robben[1] | ||
Dyddiad geni | 23 Ionawr 1984 | ||
Man geni | Bedum, Yr Iseldiroedd | ||
Taldra | 1.80m[2] | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Bayern Munich | ||
Rhif | 10 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1989–1996 | vv Bedum | ||
1996–2000 | Groningen | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2000–2002 | Groningen | 50 | (8) |
2002–2004 | PSV | 56 | (17) |
2004–2007 | Chelsea | 67 | (15) |
2007–2009 | Real Madrid | 50 | (11) |
2009– | Bayern Munich | 106 | (56) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
1999 | Yr Iseldiroedd dan 15 | 1 | (0) |
1999–2000 | Yr Iseldiroedd dan 16 | 11 | (4) |
2000 | Yr Iseldiroedd dan 17 | 3 | (1) |
2001–2002 | Yr Iseldiroedd dan 19 | 8 | (2) |
2001–2003 | Yr Iseldiroedd dan 21 | 8 | (1) |
2003–2017 | Yr Iseldiroedd | 76 | (25) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 15:31, 10 Mai 2014 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Gronningen lle roedd yn Chwaraewr y Flwyddyn yn yr Eredivisie yn 2000/01 cyn symud i PSV Eindhoven am €3.9m yn ystod haf 2002[3]. Llwyddodd i ennill pencampwriaeth gyda PSV yn 2003 ac roedd ei berfformiadau yn ddigon i ddenu sylw sawl clwb, ond cytunodd i ymuno â Chelsea ar ddiwedd tymor 2003/04 am £12m[4].
Casglodd ddau bencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr ond, wedi tymor rhwystredig oherwydd anafiadau, symudodd i Sbaen a Real Madrid am €35m ym mis Awst 2007[5] ac enillodd y bencampwriaeth yn ei dymor cyntaf yn y Santiago Bérnabeu.
Ym mis Awst 2009 symudodd Robben i Bayern Munich am ffi oddeutu €25 million[6] ac mae wedi casglu tair pencampwriaeth yn 2009/10, 2012/13 a 2013/14 yn ogystal â sgorioi'r gôl fuddugol yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2012/13.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.