![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c1/Market_Place%252C_Cannock_-_geograph.org.uk_-_202759.jpg/640px-Market_Place%252C_Cannock_-_geograph.org.uk_-_202759.jpg&w=640&q=50)
Ardal Cannock Chase
ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Cannock Chase (Saesneg: Cannock Chase District).
![]() | |
Math | ardal an-fetropolitan ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Stafford |
Prifddinas | Cannock ![]() |
Poblogaeth | 100,109 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Stafford |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 78.8825 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7306°N 1.9703°W ![]() |
Cod SYG | E07000192 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Cannock Chase District Council ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 78.9 km², gyda 100,109 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn ne Swydd Stafford. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Stafford, sef Ardal De Swydd Stafford, Bwrdeistref Stafford ac Ardal Lichfield, yn ogystal â sir Gorllewin Canolbarth Lloegr i'r de.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/73/Cannock_Chase_UK_locator_map.svg/640px-Cannock_Chase_UK_locator_map.svg.png)
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o ardaloedd llywodraeth leol llai.
Enwir yr ardal yn ôl Cannock Chase, sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ei rhan ogleddol. Rhennir yr ardal yn wyth plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys ei phencadlys yn nhref Cannock. Mae'r ardal yn cynnwys trefi Hednesford a Rugeley hefyd.