From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae anneuaidd[1] (ceir hefyd y sillafiad aneuaidd[angen ffynhonnell]) neu genderqueer yn derm mantell sy'n disgrifio hunaniaethau rhywedd nad ydynt yn wrywaidd na fenywaidd—hunaniaethau sydd y tu allan i'r system rhywedd ddeuaidd.[2][3] Mae hunaniaethau anneuaidd yn dod o dan ymbarél trawsrywedd, gan fod pobl anneuaidd fel arfer yn uniaethu â rhywedd sy'n wahanol i'r rhyw a bennwyd adeg eu genedigaeth,[3] er nad yw rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol.[4] Mae enby (o'r talfyriad Saesneg 'NB') yn enw arall ar gyfer anneuaidd.[5]
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Gall fod gan bobl anneuaidd ddau neu dri hunaniaeth rhywedd (bod yn ddeuryweddol neu'n drirhyweddol);[6][7] neu heb rywedd (anrhywedd - agender, di-rywedd - non-gendered); gallant symud rhwng ryweddau neu fod â hunaniaeth rhywedd sy'n newid (rhywedd-hylif[angen ffynhonnell] - genderfluid);[8] gallant fod â huniaeth trydydd rhywedd neu wedi'u rhyweddu'n arall[angen ffynhonnell] (categori sy'n cynnwys y rheini nad ydynt yn rhoi enw i'w rhywedd).[9]
Mae hunaniaeth rhywedd yn wahanol i gyfeiriadedd rhywiol neu ramantaidd,[10] ac mae gan bobl anneuaidd amrywiaeth o gyfeiriadedd rhywiol, yn union fel pobl gydryweddol (cis).[11]
Nid yw hunaniaethau rhywedd anneuaidd yn gysylltiedig â mynegiant rhywedd penodol, megis androgynedd. Mae gan bobl anneuaidd fel grŵp amrywiaeth eang o fynegiannau rhywedd, a gall rhai wrthod "hunaniaethau" rhywedd yn gyfan gwbl.[12] Mae rhai pobl anneuaidd yn cael triniaeth feddygol ar gyfer dysfforia rhywedd gyda llawdriniaeth neu hormonau, yn debyg i ddynion traws a menywod traws.
Dechreuodd y term genderqueer (rhyngrywedd/rhywedd-cwiar[angen ffynhonnell]) yng nghylchgronau cwiar y 1980au cyn i'r term anneuaidd gael ei ddefnyddio.[13] Yn ogystal â bod yn derm mantell, defnyddir genderqueer fel ansoddair er mwyn cyfeirio at unrhyw bobl a ystyrir eu bod yn codi uwchlaw neu'n gwyro oddi wrth wahaniadau traddodiaddol o rywedd, sut bynnag y maen nhw'n diffinio eu hunaniaeth rywedd eu hunain. Gall unigolion fynegi rhywedd yn annormadol drwy beidio â chydymffurfio â'r categorïau rhywedd deuaidd o "ddyn" a "menyw".[14] Yn aml, defnyddir genderqueer er mwyn hunan-uniaethu gan bobl sy'n herio sut mae cymdeithas yn llunio rhywedd mewn ffordd deuaidd.[15]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a gyfieithwyd ac sydd angen ei gywiro. |
Cymhwyso'r term genderqueer hefyd gan reini yn disgrifio'r hyn maent yn gweld fel amwysedd rhywedd.[16] Defnyddir androgynaidd yn aml fel term disgrifiadol ar gyfer pobl yn y categori hwn. Mae hyn oherwydd bod y term androgynedd yn gysylltiedig â chymysgedd o nodweddion gwrywaidd a benwyaidd a ddiffiniwydd yn gymdeithasol.[17] Fodd bynnag, nid yw pob person genderqueer yn uniaethu'n androgynaidd. Mae rhai pobl genderqueer yn uniaethu'n fenyw wrywaidd neu'n ddyn benywaidd neu'n cyfuno genderqueer â dewisiad rhywedd arall.[18] Nid yw bod yn anneuaidd yn yr un peth â bod yn rhyngryw, ac mae'r rhan fwyaf o bobl ryngryw yn uniaethu y maent naill ai'n wryw neu'n fenyw.[19] Mae rhai pobl yn defnyddio enby (o'r acronym Saesneg 'NB') fel ffurf fyr o anneuaidd.[20][21]
Mae llawer o gyfeiriadau yn defnyddio'r term trawsrywedd er mwyn gynnwys pobl anneuaidd.[12][22][23] Mae Sefydliad Human Rights Campaign a Gender Spectrum yn defnyddio'r term gender-expansive (rhywedd-eang) er mwyn cyfleu "ystod ehangach, mwy hyblyg o hunaniaeth rhywedd ac/neu fynegiant rhywedd na chysylltu â'r system rhywedd ddeuaidd yn gyffredin".[24]
Anrhywedd
Pobl anrhyweddol, hefyd gelwir di-rywedd, genderless neu gender-free,[25][26] yw'r rheini sy'n uniaethu nad yw ganddynt unrhyw rywedd neu hunaniaeth rhywedd.[27][28][29] Er bod y categori hwn yn cynnwys ystod eang o hunaniaethau nad ydynt yn cydymffurfio â normau rhywedd traddodiadol, mae'r ysgolhaig Finn Enke yn dweud nad yw pobl sy'n uniaethu â unrhyw un o'r hunaniaethau hyn yn uniaethu eu hunain yn drawsryweddol o reidrwydd.[30] Nid oes gan bobl anrhyweddol un rhagenw penodol; defnyddir "nhw" unigol (benthyciad o'r "singular they" yn Saesneg[angen ffynhonnell]) fel arfer, ond nid y rhagosod yw e.[31]
Deurywedd
Mae gan bobl ddeuryweddol ddwy hunaniaeth ac ymddygiad rhywedd. Fel rheol, gwyddys bod uniaethu'n ddeuryweddol yn golygu bod rhywun yn uniaethu'n wryw a benyw neu'n symud rhwng mynegiant gwrywaidd a mynegiant benywaidd o ran rhywedd, bod ganddynt ddwy hunaniaeth rhywedd wahanol ar yr un pryd.[32][33][34] Mae hyn yn wahanol i uniaethu'n rhywedd-hylif, gan efallai nad yw'r rheini sy'n uniaethu'n rhywedd-hylif yn synud yn ôl ac ymlaen rhwng unrhyw hunaniaethau rhywedd sefydlog a gallant brofi ystod neu sbectrwm cyfan o hunaniaethau dros amser.[35][36] Mae'r American Psychological Association yn disgrifio hunaniaeth deurywedd fel rhan o ymbarél hunaniaethau trawsrywedd.[37] Mae rhai unigolion deuryweddol yn mynegi dau bersona gwahanol, a all fod yn fenywaidd, gwrywaidd, anrhyweddol, androgynaidd neu hunaniaethau rhywedd eraill; mae eraill yn darganfod eu bod yn uniaethu'n ddau rywedd ar yr un pryd. Sylwodd arolwg 1999 a gynhaliwyd gan Adran Iechyd y Cyhoedd San Ffransisco fod, ymhlith y gymuned drawsryweddol, 3% o'r rheini a bennwyd yn wryw ar eu genedigaeth a 8% a bennwyd yn fenyw ar eu genedigaeth yn uniaethu naill ai fel "trawswisgwr, croes-wisgwr, drag queen, neu berson deuryweddol".[38] Darganfu Harris poll 2016 a gynhaliwyd ar ran GLAAD fod 1% o fileniaid yn uniaethu'n ddeuryweddol.[39][40] Mae pobl tri-rhyweddol yn symud ymhlith gwryw, benyw a thrydydd rhywedd.[41]
Demi-rywedd
Mae pobl ddemi-ryweddol yn uniaethu'n rhannol neu'n bennaf ag un rhywedd ac ar yr un pryd â rhywedd arall.[42][43] Ceir sawl is-gategori o'r hunaniaeth. Er enghraifft, mae demi-fachgen neu ddemi-ddyn yn uniaethu o leiaf yn rhannol â bod yn fachgen neu ddyn (pa rhyw neu rywedd bynnag a bennwyd ar eu genedigaeth) ac yn rhannol â rhyweddau eraill neu heb unrhyw rywedd arall (anrhyweddol). Mae person demi-fflwcs yn teimlo bod rhan sefydlog eu hunaniaeth yn anneuaidd.[43]
Holl-rywedd
Mae gan bobl holl-ryweddol (hefyd pangender, polygender or omnigender) hunaniaethau rhywedd lluosog.[44] Mae rhai yn uniaethu'n bob rhywedd ar yr un pryd[45]
Rhywedd-hylif
Yn aml, mae pobl rywedd-hylif yn mynegi dymuniad i aros yn hyblyg am eu hunaniaeth rhywedd yn hytrach nag ymrwymo i un diffiniad yn unig.[46] Gallant symud ymhlith mynegiannau rhywedd gwahanol drwy eu bywyd, neu fynegi agweddau lluosog o nodwyr rhywedd amrywiol ar yr un pryd.[46][47] Gall unigolyn rhywedd-hylif hefyd uniaethu'n ddeuryweddol, tri-rhyweddol neu holl-ryweddol.[6][7][48]
Trawsfenywaidd a thrawswrywaidd
Term ar gyfer unrhyw berson, deuaidd neu anneuaidd, a bennwyd gwryw ar eu genedigaeth ac sydd â hunaniaeth neu gyflwyniad benywaidd yn bennaf yw trawsfenywaidd; y term cyfweth ar gyfer rhywun a bennwyd benyw ar eu genedigaeth ac sydd â hunaniaeth neu gyflwyndiad gwrywaidd yw trawswrywaidd.[49]
Ym 1992, ar ôl cyhoeddi Transgender Liberation: A Movement Whose Time Has Come gan Leslie Feinberg, ehangwyd y term trawsrywedd i ddod yn derm ar gyfer amrywiad mewn rhywedd yn gyffredinol.[50] Pwysleisir hyn ym 1994, pan ysgrifennodd yr ymgyrchydd Kate Bornstein "mae'r holl gategorïau o drawsrywedd yn dod o hyd i dir cyffredin o ran y ffaith eu bod hwy i gyd yn torri un neu fwy o'r rheolau rhywedd. Yr hyn sydd gennym yn gyffredin yw taw herwyr rhywedd ydym, pob un ohonom ni."[51]
Dechreuwyd defnyddio y term genderqueer yn ystod canol y 1990au ymhlith ymgyrchyddion gwleidyddol.[50] Cysylltir Riki Anne Wilchins yn aml â'r gair ac yn honni eu bod wedi'i fathu.[52] Defnyddiodd Wilchins y term mewn ysgrif 1995 a gyhoeddwyd yn rhifyn cyntaf In Your Face er mwyn disgrifio unrhyw un sy'n anghydffurfiol o ran rhywedd.[53][54] Hefyd, un o'r prif-gyfranwyr i'r antholeg Genderqueer: Voices Beyond the Sexual Binary a gyhoeddwyd yn 2002.[55] Dywedodd Wilchins eu bod yn uniaethu'n genderqueer yn eu hunangofiant 1997.[53]
Poblogeiddiodd y rhyngrwyd y term genderqueer, gan y gallwyd cyrraedd cynulleidfa eang.[50] Yn 2008, defnyddiodd The New York Times y gair genderqueer.[56][50] Yn y 2010au, daeth y term hwn yn fwy poblogaidd gan fod llawer o enwogion yn uniaethu eu bod yn anghydffurfiol o ran rhywedd.[57] Yn 2012, dechreuwyd Intersex & Genderqueer Recognition Project er mwyn dadlau dros ehangu opsiynau rhywedd mewn dogfennaeth swyddogol.[58] Yn 2016, James Shupe oedd y person cyntaf i gael rhywedd anneuaidd mewn dogfennau swyddogol yn yr Unol Daleithiau.[59]
Rhagenwau anneuaidd cyffredin | |
Yn ôl arolwg 2021, 'they', 'he', 'she', dim/osgoi rhagenwau ac 'it'yw'r pum set rhagenwau mwyaf poblogaidd a ddefnyddir gan bobl anneuaidd. [60] |
Mae rhai pobl anneuaidd yn defnyddio rhagenwau niwtral o ran rhywedd. Yn Gymraeg, defnydd o nhw ac eu yw'r mwyaf cyffredin[61]. Yn Saesneg, defnyddir they[60][62] yn ogystal â rhagenwau ansafonol – cyfeirir atynt yn gyffredin fel neopronouns[63] – megis xe, ze, sie, co a ey hefyd, ond nid oes unrhyw neopronouns cyffredin yn Gymraeg. Mae rhai erail yn defnyddio rhagenwau penodol o ran rhywedd confensiynol 'ef' neu 'hi', fel arall defnyddio 'ef' a 'hi', neu ddefnyddio eu henw yn unig a pheidio â defnyddio rhagenwau o gwbl.[64] Mae llawer yn defnyddio iaith niwtral ychwanegol, megis y teitl 'Mx'.[65]
Mae llawer o bobl anneuaidd/generqueer yn defnyddio'r rhywedd a roddwyd ar eu genedigaeth er mwyn cynnal busnes pob dydd, gan fod llawer o sefydliadau a ffurfiau o adnabyddiaeth – fel pasbortau a thwydded yrru – yn derbyn, yn yr ystyr o adnabyddiaeth ar gof a chadw, hunaniaethau rhywedd deuaidd. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd o dderbyn hunaniaethau rhywedd anneuaidd a'r codiad mewn adnabyddiaeth cymdeithasol ehangaf, mae hyn yn newid yn araf, wrth i nifer fwy o lywodraethau a sefydliadau gydnabod a chaniatáu hunaniaethau anneuaidd.[2]
Mae nifer o wledydd yn cydnabod dosbarthiadau anneuaidd neu drydydd rhywedd. Mae rhai cymdeithasau anorllewinol yn cydnabod pobl drawsryweddol fel trydydd rhywedd ers amser maith, er efallai nad yw hyn (neu'n ddiweddar yn unig)[66] yn cynnwys cydnabyddiaeth gyfreithiol ffurfiol. Mewn cymdeithasau gorllewinol, efallai taw'r wlad gyntaf i gyfnabod yn gyfreithiol dosbarthiad rhyw'r tu allan i 'gwryw' a 'benyw' ar ddogfennaeth gyfreithiol oedd Awstralia, ar ôl y gydnabyddiaeth o statws rhyngryw Alex MacFarlane yn 2003.[67] Dilynodd cydnabyddiaeth gyfreithiol ehangach pobl anneuaidd – ar ôl cydnabyddiaeth pobl ryngryw yn 2003 – yng nghyfraith Awstralia rhwng 2010 a 2014, gyda chamau cyfreithiol a gymerwyd yn erbyn Cofrestrfa Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau Llywodraeth De Cymru Newydd gan ymgyrchydd trawsryweddol Norrie May-Welby i gydnabod hunaniaeth rhywedd cyfreithiol Norrie fel 'amhenodol'. Cydnabu Goruchaf Lys India bobl drawsryweddol ac anneuaidd fel trydydd rhywedd yn ffurfiol yn 2014, yn dilyn camau cyfreithiol a gymerwyd gan ymgyrchydd trawsryweddol Laxmi Narayan Tripathi.[68] Ym mis Gorffennaf, ymgorfforodd yr Ariannin rywedd anneuaidd yn ei cherdyn adnabod gwladol, dod yn wlad gyntaf yn Ne America i gydnabod rhywedd anneuaidd yn gyfreithiol ar ei holl ddogfennaeth swyddogol; gall pobl anneuaidd yn y wlad cael y dewisiad i adnewyddu eu cerdiau adnabod gyda'r llythyren 'X' o dan rywedd.[69][70]
Tra nad yw'r Unol Daleithiau yn cydnabod rhywedd anneuaidd yn ffederal, yn 2016 daeth Oregon yn y dalaith gyntaf i gydnabod hunaniaeth rhywedd anneuaidd.[71] Yn dilyn Oregon, yn 2017 pasiodd Califfornia ddeddf yn caniatáu i ddinasyddion uniaethu'n 'anneuaidd' ar ddogfennau swyddogol.[71] Erbyn 2019, mae wyth talaith wedi pasio deddfau sy'n caniatáu dynodiadau 'anneuaidd' neu 'X' ar rai dogfennau adnabod.[71] Un o'r prif ddadleuon yn erbyn cynnwys trydydd dynodiad rhywedd yn yr UD yw y byddai'n gwneud gorfodi'r gyfraith a gwyliadwriaeth yn anos, ond nid yw gwledydd sydd wedi cydnabod trydydd marciwr rhywedd yn swyddogol wedi adrodd y problemau hyn.[71] Yn yr Unol Daleithiau, nid oes unrhyw ddeddfau penodol i amddiffyn pobl anneuaidd rhag gwahaniaethu, ond mae'n anghyfreithlon i gyflogwr orfodi cyflogeion i gydymffurfio â stereoteipiau rhyw.[72]
Yn y Deyrnas Unedig, nid oes cydnabyddiaeth gyfreithiol o rywedd anneuaidd ar ddogfennau swyddogol. Ym mis Mawrth 2020, dyfarnodd barnwr fod diffyg o farciwr rhywedd anneuaidd ar basbortau a gyhoeddir gan y DU yn gyfreithlon "am y tro", ond nododd "pebai'r duedd ryngwladol tuag at gynabyddiaeth sywddogol ehangach o "anneuaidd" yn parhau, yna rywbryd yn y dyfodol, gallai gwadiad dorri hawliau dynol."[73] Ar 14 Medi 2020, dyfarnodd tribiwnlys cyflogaeth yr amddiffynnir cyflogai anneuaidd rhag gwahaniaethu yn Neddf Cydraddoldeb 2010.[74] Ym mis Mai, gwrthododd Llywodraeth y DU ddeiseb yn galw am gydnabyddiaeth gyfreithiol o anneuaidd fel hunaniaeth rhywedd, dywedodd y llywodraeth yn eu hymateb nad oedd bwriad i ehangu Deddf Cydnabod Rhywedd 2004, yn dweud y byddai gwneud hynny yn arwain at "ganlyniadau ymarferol cymhleth".[75]
Mae amryw o wledydd drwy hanes wedi anghyfreithloni hunaniaethau trawsrywedd ac anneuaidd.[76] Yn India, anghyfreithlonwyd hijras a hunaniaethau anneuaidd eraill o dan Ddeddf Llwythau Troseddol 1871 ymlaen, yn cyfeirio at unigolion o'r fath fel "castiau troseddol".[77]
Yn yr Unol Daleithiau, dewisodd y mwyafrif o'r ymatebwyr i Arolwg Gwahaniaethu Trawsrywedd Cenedlaethol "rywedd na restrwyd yma". Roedd ymatebwyr "rhywedd na restrwyd yma" yn naw pwynt canran yn fwy tebygol i dweud mynd heb ofal iechyd oherwydd ofni gwahaniaethu na'r sampl gyffredinol (36 y cant o gamharu â 27 y cant). Dywedodd naw deg y cant eu bod yn profi rhagfarn wrth-draws yn y gweithle, a 43 y cant eu bod wedi ceisio eu lladd eu hunain.[78]
Dywedodd y rhan fwyaf fod y gwahanieathu a wynebwyd gan bobl anneuaidd yn aml yn cynnwys diystyriaeth, anghrediniaeth, rhyngweithiadau nawddoglyd ac amharch.[71] Hefyd, gwelwyd pobl anneuaidd yn aml fel y maent yn cymryd rhan mewn trend ac felly fe'u bernir yn annidwyll neu fynnu sylw.[71]
Hefyd, problem bod llawer o unigolion yn ei hwynebu yw camryweddu, boed yn fwriadol neu'n anfwriadol. Yn achos camryweddu bwriadol, trawsffobia yw'r grym y tu ôl iddo. Hefyd, trinnir defnydd rhagenwau nhw/eu fel rhan o'r pwnc, mwy a dadleuol, am leoedd diogel a chywirdeb gwleidyddol,[79] yn achosi i rai unigolion wrthio yn ôl a chamryweddu yn fwriadol. Yn achos camryweddu anfwriadol, disgwylir i'r person a gamryweddwyd gysuro a maddau'r person a wnaeth y camgymeriad.[80]
Defnyddiwyd llawer o faneri mewn cymunedau anneuaidd a genderqueer er mwyn cynrychioli amryw o hunaniaethau. Ceir baneri anneuaidd a genderqueer gwahanol. Dyluniwyd baner balchder genderqueer yn 2011 gan Marilyn Roxie. Mae lafant yn cynrychioli androgynedd neu gwiarwydd, mae gwyn yn cynrychioli hunaniaeth anrhywedd, ac mae gwyrdd yn cynrychioli'r rheini sydd â hunaniaethau a ddiffinir y tu allan i'r deuaidd.[83][84][85] Crëwyd baner balchder anneuaidd yn 2014 gan Kye Rowan.[86] Mae melyn yn cynrychioli pobl sydd â rhywedd y tu allan i'r deuaidd, mae porffor yn cynrychioli'r rheini sydd â rhywedd sy'n gymysgedd o – neu rwng – wryw a benyw, mae du yn cynrychioli pobl nad yw â rhywedd, ac mae gwyn yn cynrychioli'r rheini sy'n cofleidio llawer neu bob rhywedd.[87]
Mae gan bobl genderfluid, sydd hefyd yn dod o dan yr ymbarél anneuaidd, eu baner eu hunain hefy. Mae pinc yn cynrychioli benyweidd-dra, mae porffor yn cynrychioli rhywedd cymysg neu androgynedd, mae du yn cynrychioli pob rhywedd arall, ac mae glas yn cynrychioli gwryweidd-dra.[84][88]
Mae pobl anrhyweddol, sydd weithiau yn uniaethu'n anneuaidd neu genderqueer, eu baner eu hunain. Mae'r faner hon yn defnyddio streipiau du a gwyn i gynrychioli absenoldeb rhywedd, ac mae gwyrdd yn cynrychioli rhyweddau anneuaidd.[89]
Dathlir Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anneuaidd ar 14 Gorffennaf.[90][91][92][93]
|
Yn ôl astudiaeth 2021 gan y Williams Institute, amcangyfrifir bod 1.2 miliwn o Americanwyr yn uniaethu'n anneuaidd, yn ffurfio 11% o'r boblogaeth oedolion LHDT yn yr Unol Daleithiau.[98]
Dangosodd arolwg 2019 o'r boblogaeth ddau-enaid ac LHDTC+ yn ninas Ganadaidd Hamilton, Ontario, o'r enw Mapping the Void: Two-Spirit and LGBTQ+ Experiences in Hamilton, bod 19% o'r ymatebwyr yn uniaethu'n anneuaidd.[99]
Darganfu arolwg 2017 o Ganadiaid LHDT+ o'r enw LGBT+ Realities Survey fod 4% o'r 1,897 o ymatebwyr yn uniaethu'n drawsryweddol anneuaidd a bod 1% yn uniaethu'n anneuaidd y tu allan i ymbarél trawsrywedd.[100]
Yn ôl Report of the 2015 U.S. Transgender Survey, mae 35% o blith bron i 28,000 o ymatebwyr trawsrwyedd i'r arolwg dienw ar lein yn uniaethu'n anneuaidd.[101][102]
Darganfu arolwg 2011 a gynhaliwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y DU fod 0.4% o'r 10,039 o ymatebwyr yn uniaethu'n anneuaidd. Ni chaniateir casglu am gyfran pobl anneuaidd yn y boblogaeth gyfan, gan nad yw sampl yr arolwg yn gynrychiadol o reidrwydd. Profi a yw ymatebwyr yn fodlon ateb cwestiynau am eu statws trawsrywiol oedd y pwrpas[103]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.