From Wikipedia, the free encyclopedia
Niwtraliaeth rhywedd yw'r syniad y dylai polisïau, iaith, a sefydliadau cymdeithasol (strwythurau cymdeithasol, rolau rhywedd, neu hunaniaeth rhywedd)[1] osgoi gwahaniaethu rhwng rolau yn ôl rhyw neu rywedd pobl, er mwyn osgoi gwahaniaethu sy'n deillio o'r argraff bod rolau cymdeithasol i'w cael sy'n fwy addas i un rhywedd nag un arall.
Gall y sawl sy'n cynnig niwtralrwydd o ran rhyw gefnogi polisïau cyhoeddus sydd wedi'u cynllunio i ddileu gwahaniaethau ar sail rhywedd, megis tai bach niwtral o ran rhywedd. Gwelwyd bod niwtraliaeth o ran rhywedd yn y gyfraith wedi newid natur anghydfodau ynghylch gwarchodaeth plant, trwy ei gwneud yn fwy tebygol y bydd dynion yn cael gwarchodaerth o'u plant os bydd ysgariad.[2]
Mae'r diffiniad cyfreithiol o rywedd wedi bod yn bwnc dadleuol, yn enwedig i bobl trawsrywiol. Mewn rhai gwledydd, rhaid i bobl gael eu sterileiddio cyn cael eu diffinio'n gyfreithiol fel rhyw newydd.[3]
Ymunodd California ag Oregon yn ei ymdrech i gydnabod niwtraliaeth o ran rhywedd. Ar Hydref 15, 2017, llofnododd llywodraethwr California, Jerry Brown, gyfraith newydd sy'n caniatáu i bobl ddewis dewis 'niwtral o ran rhywedd' ar gardiau adnabod y dalaith.[4]
Mae'r ardaloedd llwyd sy'n bodoli o ran rhywdd yn destun trafod wrth ymwneud â niwtraliaeth rhywedd. Mae ceisio diffinio ffiniau rhywedd yn gyfreithiol wedi bod yn fater anodd gan fod pobl i'w cael sy'n ystyried eu hunain neu'n cael eu hystyried gan eraill fel rhyngrywiol, y trydydd rhywedd, trawsrywiol ac yn fwy cyffredinol yn anneuaidd.
Dallineb rhywedd yw'r syniad o beidio â gwahaniaethu rhwng pobl ar sail rhywedd. Mae rhywun sy'n nodi ei fod yn ddall i rywedd yn cymryd safbwynt niwtraliaeth o ran rhywedd mewn bywyd bob dydd.
Er bod dallineb rhywedd yn cyfleu'r syniad o gydraddoldeb rhywedd, nid yw'n cyfrannu i'r syniadau niwtraliaeth rhywedd a ddisgrifiwyd yn yr adran "Mewn polisi". Nid yw rhywun sy'n ddall o ran rhywedd o reidrwydd yn cyd-fynd â'r syniad o fudiadau sydd i'w cael o fewn i ragfarnau ar sail rhywedd.[5] Mae perspm sy'n arddel dallineb rhyw ond yn mynegi anghrediniaeth o'r rhywedd ddeuaidd sydd wedi'i sefydlu o fewn y cyflwr dynol. Fodd bynnag, mae arddel dallineb rhywedd yn golygu niwtraliaeth o ran rhywedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.