![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/46/Andreas_Libavius.jpg/640px-Andreas_Libavius.jpg&w=640&q=50)
Andreas Libavius
From Wikipedia, the free encyclopedia
Alcemydd, meddyg ac ysgolfeistr Almaenig oedd Andreas Libavius (c. 1555 – 25 Gorffennaf 1616) oedd yn un o'r prif wrthwynebwyr i syniadau Paracelsus. Mae'n nodedig hefyd am gyhoeddi'r gwerslyfr cyntaf ar bwnc cemeg, Alchemia (1597).
Andreas Libavius | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1555 ![]() Halle (Saale) ![]() |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1616 ![]() Coburg ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cemegydd, academydd, meddyg ![]() |
Cyflogwr |
Ganwyd Andreas Libau yn Halle an der Saale, Archesgobaeth Magdeburg, yn fab i wëydd tlawd. Astudiodd ym Mhrifysgol Wittenberg cyn iddo dderbyn doethuriaeth athronyddol o Brifysgol Jena yn 1581. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Brifysgol Basel, a dychwelodd i Jena i addysgu hanes a barddoniaeth yn y cyfnod 1586 91. Gweithiodd fel meddyg y dref ac ysgolfeistr yn Gymnasium Rothenburg, ac yn 1605 sefydlodd y Gymnasium Casimirianum yn Coburg.[1]
Datblygwyd athroniaeth unigryw ganddo, drwy gyfuno elfennau o Ramiaeth, Aristoteliaeth a dyneiddiaeth y Dadeni â'r traddodiad Lwtheraidd, yn bennaf dysgeidiaeth Philip Melanchthon. Bu'n lladd yn aml ar syniadau'r Paracelsiaid, gan gynnwys Oswald Croll, ac yn dilorni'r cyfuniad o Hermetigiaeth a Chalfiniaeth a ddatblygwyd gan y Rhosgroesogion cynnar. Er iddo gredu y gellir trawsnewid metelau cyffredin yn aur, ymwrthododd Libavius â thraddodiad yr alcemyddion drwy arddel cyhoeddi arferion a syniadau cemegol yn hytrach na chyfriniaeth a chêl-wybodaeth. Dadleuodd o blaid meddygaeth gemegol fel maes ategol i'r hen materica medica. Yn ei waith Alchemia mae'r ymdrech gyntaf yn Ewrop i ymdrin â gwyddor cemegion mewn modd systematig a dadansoddol, a'r disgrifiad cyntaf o labordy cemegol.[2]
Ymhlith ei ddarganfyddiadau mae dulliau o baratoi amoniwm sylffad, antimoni sylffid, asid hydroclorig, a thun tetraclorid.[1]