![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4a/Paracelsus.jpg/640px-Paracelsus.jpg&w=640&q=50)
Paracelsus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Meddyg ac athronydd Swisaidd ei genedl ac Almaeneg ei iaith oedd Philippus Aureolus Theophrastus Bombastus Von Hohenheim (11 Tachwedd (neu 17 Rhagfyr) 1493 – 24 Medi 1541)[1] a adwaenir gan amlaf gan ei enw Lladin, Paracelsus (/parəˈsɛlsəs/). Yn ogystal â'i astudiaethau yn ffisigwriaeth, botaneg ac athroniaeth naturiol, ymddiddorai yn alcemeg, sêr-ddewiniaeth, a'r ocwlt.[2]. Bu'n gyfrifol am ddatblygu Athrawiaeth yr Arwyddnodau.
Paracelsus | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Paracelsus ![]() |
Ganwyd | Philippus Aureolus Theophrastus Bombastus von Hohenheim ![]() 10 Tachwedd 1493 ![]() Einsiedeln ![]() |
Bu farw | 24 Medi 1541 ![]() Salzburg ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Swistir ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg ac awdur, astroleg, seryddwr, otolaryngologist, fferyllydd, cemegydd, athronydd, naturiaethydd, meddyg, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | athro cadeiriol ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Wilhelm Bombast von Hohenheim ![]() |
Mam | NN ![]() |
Er ei ganolbwynt ar agweddau goruwchnaturiol a ystyrir yn ffug-wyddonol gennym yn yr oes fodern, gwyddonydd chwyldroadol oedd Paracelsus a osododd sail i fethodoleg weithredol yn y gwyddorau iechyd a chydnabai pwysigrwydd cemeg i'r ffisigwr. Beirniadai'r dull ysgolaidd ym meysydd meddygaeth, gwyddoniaeth, a diwinyddiaeth, gan arddel arsylwi natur er diben dealltwriaeth. Eiconoclast gwyddonol ydoedd, gan iddo amau doethindeb y testunau hynafol. Ymhlith ei gampau mae disgrifiad clinigol o syffilis, ymchwil cynnar ym maes gwenwyneg,[3] enwi'r elfen sinc (zincum),[4][5] ac awgrymu cysylltiad rhwng afiechydon corfforol ac afiechyd meddwl.[6] Y llyfr Der grossen Wundartzney (1536) yw ei gampwaith.