From Wikipedia, the free encyclopedia
Fforiwr, morlywiwr, a marsiandïwr o'r Eidal oedd Amerigo Vespucci (9 Mawrth 1454 – 22 Chwefror 1512)[1] sydd yn nodedig am roi ei enw i America. Mae'n sicr iddo fynd ar ddwy fordaith i'r Byd Newydd yn ystod Oes Aur Fforio, yn gyntaf i arfordir gogledd-ddwyrain De America (1499–1500) ac yn ail ar hyd arfordir dwyreiniol De America (1501–02).
Ganed Amerigo Vespucci yn Fflorens, Gweriniaeth Fflorens, ar 9 Mawrth 1454.[2] Notari o'r enw Nastagio Vespucci oedd ei dad. Derbyniodd Amerigo addysg ddyneiddiol oddi ar ei ewythr, Giorgio Antonio.
Ym 1479 aeth Amerigo gyda'i gefnder, Guido Antonio Vespucci, ar genhadaeth ddiplomyddol i ymbil ar Louis XI, brenin Ffrainc, am gymorth i'r teulu Medici yn eu rhyfel yn erbyn Teyrnas Napoli. Dychwelasant i Fflorens ym 1481, heb fawr o lwyddiant. Yn sgil marwolaeth Nastagio ym 1482, gweithiodd Amerigo i fanc Lorenzo a Giovanni di Pierfrancesco de’ Medici. Bu un o gynrychiolwyr y brodyr Medici, Giannotto Berardi, yn siandler ac yn darparu gêr a chyflenwadau i longau, gan gynnwys llongau Cristoforo Colombo. Mae'n debyg yr oedd Vespucci yn y porthladd pryd ddychwelodd Colombo o'i fordaith gyntaf i'r Byd Newydd.[3] Yn ddiweddarach, cydweithiodd Vespucci wrth baratoi llongau ar gyfer mordeithiau eraill Colombo i'r Byd Newydd. Yn sgil marwolaeth Berardi yn Rhagfyr 1495, penodwyd Vespucci yn rheolwr ar asiantaeth y Medici yn Sevilla.
Mae dau gorff o ddogfennau yn goroesi sydd yn disgrifio mordeithiau Vespucci dros Gefnfor yr Iwerydd. Ysgrifennodd Vespucci lythyr yn Eidaleg o Lisbon ar 4 Medi 1504, o bosib at gonfalonier (llumanwr neu ynad) Piero Soderini. Argraffwyd y llythyr hwn yn Fflorens ym 1505, a cheir hefyd dau gyfieithiad Lladin ohono, dan y teitlau Quattuor Americi navigationes a Mundus Novus neu Espitola Alberici de Novo Mundo. Mae'r rhain yn disgrifio pedair mordaith gan Vespucci. Mae'r gyfres arall o dystiolaeth yn cynnwys tri llythyr preifat at y Medici. Sonir yma am ddwy fordaith yn unig. Ceir dadl felly ynglŷn ag amseroedd Vespucci ar y môr, ac mae ysgolheigion wedi ymdrechu i gysoni manylion y ddau gorff o dystiolaeth. Yn ôl Alberto Magnaghi, dim ond llythyrau Vespucci at y Medici sydd yn ddibynadwy, ac mae'n debyg bod yr argraffiadau Quattuor Americi navigationes a Mundus Novus yn ffugysgrifeniadau.
Yn ôl y disgrifiad o fordaith honedig gyntaf Vespucci, aeth i fforio Gwlff Mecsico a'r arfordir o Fflorida hyd at Fae Chesapeake.
Ym Mai 1499 cychwynnodd mordaith o bedair llong o Sbaen, dan reolaeth Alonso de Ojeda a than forlywiaeth Vespucci. Gadawodd Vespucci longau eraill Ojeda ger arfordir Gaiana. Trodd i'r de, a chredir iddo ddarganfod aber Afon Amazonas ac i gyrraedd Cabo de Santo Agostinho. Ar ei ffordd yn ôl i'r gogledd, cyrhaeddodd ynys Trinidad ac ysbïodd aber Afon Orinoco cyn iddo hwylio i Hispaniola. Dychwelodd i Sbaen ym Mehefin 1500. Fel Cristoforo Colombo, cred Vespucci taw cyrion dwyreiniol pellaf cyfandir Asia oedd y Byd Newydd, a fe fu'n chwilio am Benrhyn Cattigara fel y'i disgrifir gan Ptolemi yn y Geographia.
Dychwelodd Vespucci ym Mehefin 1500, ac aeth ati i ymofyn cefnogaeth am fordaith arall i gyrraedd Cefnfor India. Fodd bynnag, ni chafodd ei gynlluniau eu derbyn gan y Sbaenwyr, ac yn niwedd 1500 aeth i Bortiwgal.
Dan nawdd Portiwgal, aeth Vespucci ar ail fordaith o Lisbon ar 13 Mai 1501. Ymwelodd ag ynysoedd Cabo Verde cyn teithio i'r de-orllewin a thuag at Cabo de Santo Agostinho. Hawliodd Vespucci iddo barhau tua'r de, ac mae'n bosib iddo ysbïo Bae Guanabara yn Ionawr 1502 a chyrraedd Río de la Plata ac arfordir Patagonia. Nid oes manylion o lwybr ei daith yn ôl i Bortiwgal. Dychwelodd i Lisbon ar 22 Gorffennaf 1502.
Yn ôl y disgrifiad o ail fordaith honedig Vespucci, aeth eto dan nawdd Portiwgal a chyda'r fforiwr Gonçalo Coelho.
Ym 1505 cafodd Vespucci ei alw i lys Sbaen i roi cyngor ar ragor o fordeithiau i'r Byd Newydd, a gweithiodd i Casa de Contratación de las Indias, un o asiantaethau'r goron, yn Sevilla. Fe'i penodwyd yn brif forlywiwr Casa de Contratación ym 1508, ac wrth ei swydd bu'n goruchwylio trwyddedau llyw-wyr a chapteiniaid llongau. Ar gyfer arolwg brenhinol, paratôdd Vespucci fap swyddogol o diroedd newydd eu darganfod a'r môr-lwybrau i'w cyrraedd. Derbyniodd Vespucci ddinasyddiaeth Sbaenaidd am ei wasanaeth i'r goron, a bu yn ei swydd yn Casa de Contratación hyd at ei farwolaeth yn Sevilla ym 1512. Yn sgil ei farwolaeth, derbyniodd ei weddw Maria Cerezo bensiwn.
Daeth "y Byd Newydd" yn enw poblogaidd o ganlyniad i Mundus Novus, a briodolir i Vespucci. Ym 1507, ailgyhoeddwyd Quattuor Americi navigationes gan y cartograffwr Martin Waldseemüller yn Saint-Dié, gyda rhagarweiniad dan y teitl Cosmographiae introductio. Awgrymai Waldseemüller roddi enw Amerigo ar y cyfandir newydd, ac ymddengys yr enw America am y tro cyntaf ar blanisffer Waldseemüller i ddisgrifio tir De America. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr enw i gyfeirio at Ogledd America hefyd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.