Alexander Graham Bell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyddonydd, dyfeisiwr ac arloeswr blaengar Albanaidd oedd Alexander Graham Bell (3 Mawrth 1847 – 2 Awst 1922), sy'n cael ei gydnabod am ddyfeisio'r teleffôn. Roedd ei dad, ei dadcu a'i frawd i gyd wedi gwneud gwaith a oedd yn gysylltiedig â llefaru ac ynganu geiriau. Roedd ei fam a'i wraig yn gwbl fyddar, rhywbeth a ddylanwadodd yn fawr ar waith Bell.[1] Yn sgîl ei waith ymchwil ar glyw a llefaru, gwnaeth arbrofion gyda dyfeisiadau clyw ac yn ei dro, arweiniodd hyn ar Bell yn derbyn y patent cyntaf yn yr Unol Daleithiau am y teleffôn cyntaf ym 1876.[2] Serch hynny, ystyriai Bell fod ei ddyfais enwocaf yn amharu ar ei waith go iawn fel gwyddonydd a gwrthododd gael teleffôn yn ei swyddfa.[3] Pan fu farw Bell, roedd ffônau ledled yr Unol Daleithiau wedi tawelu am funud fel teyrnged i'r gwr a'u crëodd.[4]
Alexander Graham Bell | |
---|---|
Llais | Alexander Graham Bell's Voice.ogg |
Ganwyd | 3 Mawrth 1847 Caeredin |
Bu farw | 2 Awst 1922 o diabetes Beinn Bhreagh |
Man preswyl | Brodhead-Bell-Morton Mansion |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Addysg | Doctor of Sciences |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd, peiriannydd trydanol, peiriannydd, person busnes, dyfeisiwr, athro cadeiriol |
Swydd | athro cadeiriol, aelod o fwrdd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | invention of telephone |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 111 cilogram |
Tad | Alexander Melville Bell |
Mam | Eliza Bell |
Priod | Mabel Gardiner Hubbard |
Plant | Elsie May Grosvenor, Marian Fairchild |
Gwobr/au | Gwobr Edison, Gwobr Elliott Cresson, Medal Hughes, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Medal Albert, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Member of the National Academy of Sciences of the United States, Medal John Fritz, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol |
llofnod | |
Yn ystod bywyd Bell, dyfeisiodd eitemau eraill hefyd gan gynnwys ei waith arloesol ar hydroffoils ac aeronauteg. Ym 1888, daeth Bell yn un o sefydlwyr y Gymdeithas National Georgraphic.[5]