From Wikipedia, the free encyclopedia
Arweinydd crefyddol Shïa, un o ddwy brif gangen Islam, yw aiatola[1][2] (Perseg: آيتالله, sy'n tarddu o Arabeg: آية الله "Arwydd Duw"). Teitl anrhydeddus yn nhraddodiad Usuli y Deuddeg Imam yw "Aiatola" a roddir i glerigwr sy'n arbenigo mewn astudiaethau Islamaidd megis cyfreitheg, darllen y Corân, ac athroniaeth Islamaidd.
Enghraifft o'r canlynol | teitl anrhydeddus, Islamic religious occupation |
---|---|
Math | Islamic cleric, Shia Muslim |
Rhan o | Muslim clergy |
Enw brodorol | آیتالله |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymddangosodd yr enw yn ystod oes ddiweddar brenhinllin Qajar, a deyrnasodd dros Aruchel Wladwriaeth Persia o 1789 hyd 1925. Ni ddefnyddir y teitl ymhlith Shïaid Libanus, Pacistan, ac India, a fe'i defnyddir yn Irac dim ond mewn achos ysgolhaig y gyfraith o dras Iranaidd.[3] Daeth yn fwyfwy boblogaidd yn ail hanner yr 20g, ac mae nifer o aiatolas cyfoes yn meddu ar ddylanwad gwleidyddol.
Gallai aiatola gyhoeddi penderfyniadau a elwir ffatwa. Yn gywir, mae gan y ffatwa awdurdod i'r rheiny sy'n ei darllen ac yn cytuno â'i gynnwys yn unig, ond mae nifer o aiatolas yn denu dilynwyr sydd yn ystyried pob ffatwa ganddynt yn orfodol.
Enw Perseg ydy آيتالله (llythrennau Rhufeinig: āyatullāh) sy'n tarddu o'r gair Arabeg آية الله (āyatullāh), cyfuniad o آيات (ʾāyat), sef enw ar adnodau'r Corân a ffurf luosog ar arwydd, tystiolaeth, neu wyrth, ac الله (allāh), sef Duw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.