![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/32/Calstock_Viaduct.jpg/640px-Calstock_Viaduct.jpg&w=640&q=50)
Afon Tamar
afon yng Nghernyw / From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yn ne-orllewin gwledydd Prydain yw Afon Tamar (Cernyweg: Dowr Tamar).[1] Mae ei chwrs yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint, De-orllewin Lloegr.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw, Dyfnaint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 50.9139°N 4.4528°W, 50.3583°N 4.1667°W ![]() |
Aber | An Leysek ![]() |
Llednentydd | Afon Lyd, Afon Enni, Afon Otri, Afon Tavy ![]() |
Dalgylch | 1,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 98 ±1 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 50 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ![]() |
Manylion | |
Cau
O'i tharddle rhwng Bude (Cernyw) a Clovelly (Dyfnaint) mae hi'n rhedeg ar gwrs deheuol bron ar draws penrhyn y de-orllewin gan groesi rhosdir Gwaun Bodmin a llifo i Fôr Udd ger Plymouth mewn aber eang sy'n ffurfio un o angorfeydd gorau gwledydd Prydain.
Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex. Hyd heddiw mae'r afon yn nodi'r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint am y rhan fwyaf o'i chwrs.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6c/South_east_Cornish_Rivers_Kernoweg.gif/320px-South_east_Cornish_Rivers_Kernoweg.gif)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/32/Calstock_Viaduct.jpg/640px-Calstock_Viaduct.jpg)