Yr afon fwyaf yng Ngogledd Iwerddon yw Afon Bann (Gwyddeleg: An Bhanna,[1] "y dduwies"). Mae'n rhannu'n ddwy ran wahanol, sef y Bann Uchaf a'r Bann Isaf. Mae'r Bann Uchaf yn codi ym Mynyddoedd Mourne ac yn llifo i'r gogledd-orllewin i Lough Neagh (y llyn mwyaf ar ynys Iwerddon). Mae'r Bann Isaf yn llifo o Lough Neagh tua'r gogledd trwy Lough Beg ac yn cyrraedd y môr ychydig i'r gogledd o dref Coleraine. Mae gan yr afon ei hun hyd o 80 milltir (129 km); at yr hyd hwn gellir ychwanegu hyd 19 milltir (30 km) Lough Neagh.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Iwerddon |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 55.0022°N 6.5792°W, 54.1705°N 6.03522°W, 55.169°N 6.77169°W |
Aber | Sianel y Gogledd |
Llednentydd | Afon Blackwater |
Hyd | 137 cilometr |
Llynnoedd | Lough Neagh |
Mae'r Bann Uchaf yn un o'r afonydd pysgota bras mwyaf poblogaidd yn Ewrop. Y brif dref ar y rhan hon yw Portadown.
Mae'r Bann Isaf yn llifo trwy dir isel mawnog yn ardaloedd trefi Magherafelt, Ballymena, Ballymoney, a Coleraine.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.