rhywogaeth o adar bychan From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhywogaeth o adar yw aderyn to (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar to) neu aderyn y to a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Passer domesticus; yr enw Saesneg arno yw House sparrow. Mae'n perthyn i deulu'r Golfanod (Lladin: Ploceidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. domesticus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Aderyn to Passer domesticus | |
---|---|
Ceiliogod | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Passeridae |
Genws: | Passer[*] |
Rhywogaeth: | Passer domesticus |
Enw deuenwol | |
Passer domesticus (Linnaeus, 1758)
| |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ne America, Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Mae Aderyn y To yn gyffredin yn Ewrop ac ar draws rhan fawr o Asia, ac mae hefyd wedi ei gyflwyno i Ogledd a De America, Deheubarth Affrica, ac Awstralia a Seland Newydd.
Yn aml iawn mae perthynas glos rhwng yr aderyn to ac anheddau dynol, ac mae'n medru bod yn brin lle mae'r boblogaeth ddynol yn denau. Yn ddiweddar tynnwyd sylw at y ffaith fod niferoedd yr aderyn yma wedi cwympo mewn rhai rhannau o Ewrop, yn enwedig yn nhrefi Lloegr, lle mae'r aderyn to bron wedi diflannu o Lundain. Yng Nghymru ar y llaw arall mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.
Dywedir i'r nyth aderyn-to hwn fod o fewn ffram ffenestr (sash window) ers 1896 (y flwyddyn godwyd y tŷ) yn Llanfaglan. Preswylydd y tŷ Frank Jones dynnodd sylw rhaglen Galwad Cynnar (Radio Cymru) iddo.
Cymerodd Kelvin Jones (swyddog Cymru y BTO) y nyth i’w dadansoddi gan arbenigwyr. Tybed pa weiriau oedd ar gael i adar-to yn 1896? Diolch i waith arloesol prifysgolion Cymru, mae DNA holl blanhigion Cymru bellach wedi ei gofnodi gan yr Ardd Genedlaethol, ac fe anfonwyd y nyth iddynt gan obeithio adnabod pob gwelltyn ynddo (mae Prosiect Llên Natur yn aros y canlyniadau o hyd).
Cyn anfon y nyth cafodd y ddau fotanegydd, Nigel Brown a Trefor Dines, gyfle i edrych yn fanwl ar y nyth. Mi oedd TD yn gobeithio buasai rhywfaint o gen neu ffwng wedi sychu arno ond ni fu. Cytunodd y ddau ar y rhestr yma:
Meddai TD, “fysai'r rhain yn rhan o hen borfeydd ac yn gyffredin iawn yn yr amser cafodd y nyth ei godi. Mae yna lawer o hadau yn waelod y box a sawl math o wreiddiau.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.