Aberthin
pentref a chymuned ym Mro Morgannwg / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned y Bont-faen a Llanfleiddan, Bro Morgannwg, Cymru, yw Aberthin.[1][2] Saif tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Bont-faen ar ffordd yr A4222 rhwng y Bont-faen a Llantrisant. Ymddengys fod yr enw yn dod o enw'r ffrwd Nant y Berthin sy'n rhedeg heibio i'r pentref.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Y Bont-faen a Llanfleiddan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.467°N 3.429°W |
Cod OS | ST010753 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Kanishka Narayan (Llafur) |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]