![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/View_towards_Wrexham_from_Caergwrle_Castle_-_geograph.org.uk_-_1722002.jpg/640px-View_towards_Wrexham_from_Caergwrle_Castle_-_geograph.org.uk_-_1722002.jpg&w=640&q=50)
Abermor-ddu
pentref yn Sir y Fflint / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llanfynydd, Sir y Fflint, Cymru, yw Abermor-ddu[1] neu Abermorddu[2] ( ynganiad ). Saif ar briffordd yr A541 yn agos i'r ffin â Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, a tua 6 milltir o Wrecsam.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Hôb ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1042°N 3.0339°W ![]() |
Cod OS | SJ307568 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
![]() | |
Cau
Daw'r enw o "aber y moel du", gydag "aber" yn golygu "pistyll" yn yr ystyr hwn.
Gwasanaethir yr ardal gan Ysgol Uwchradd Castell Alun. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Caergwrle, Yr Hob a Cefn-y-bedd.
Yn agos i’r ystad tai newydd yn y pentref mae olion siambr gladdu o’r Oes Efydd[3]. Mae stryd o’r enw "Llys Cromlech" yn yr ystad i gofio am gynhanes y safle.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jack Sargeant (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5]