![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4a/Jack_Sargeant_AM_%252840900021582%2529.png/640px-Jack_Sargeant_AM_%252840900021582%2529.png&w=640&q=50)
Jack Sargeant
gwleidydd Cymreig ac Aelod o'r Cynulliad / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Llafur yw Jack Sargeant (ganwyd 1994). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy ers 2018. Fe'i etholwyd mewn is-etholiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2018 ac fe'o ail-etholwyd yn etholiad 2021. Mae'n fab i Carl Sargeant, Aelod Cynulliad blaenorol yr etholaeth a bu farw yn Nhachwedd 2017.[2]
Ffeithiau sydyn Jack Sargeant AS, Aelod o Senedd Cymru dros Alun a Glannau Dyfrdwy ...
Jack Sargeant AS | |
---|---|
![]() | |
Aelod o Senedd Cymru dros Alun a Glannau Dyfrdwy | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 7 Chwefror 2018[1] | |
Mwyafrif | 6,545 (35.3%) |
Rhagflaenwyd gan | Carl Sargeant |
Manylion personol | |
Ganwyd | 1994 (29–30 oed) Rhuddlan, Sir y Fflint |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Gwefan | www.jacksargeant.org |
Cau
Magwyd Sargeant yn Nghei Connah ac aeth i Ysgol Gynradd Bryn Deva ac Ysgol Uwchardd Cei Connah. Gwnaeth prentisiaeth yng Ngholeg Deeside yn gweithio gyda busnes bach lleol, cyn astudio am radd peirianneg ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam. [3]