![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5d/Abernant_village_-_geograph.org.uk_-_1185542.jpg/640px-Abernant_village_-_geograph.org.uk_-_1185542.jpg&w=640&q=50)
Aber-nant, Sir Gaerfyrddin
pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Aber-nant[1] (hefyd: Abernant). Yn Saesneg tueddir i ddefnyddio'r sillafiad "Abernant",[2] a arferid gynt yn Gymraeg cyn y safoni a fu ar sillafiadau enwau lleoedd Cymru yn 1957.[3]
![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 297 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,204.79 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8814°N 4.4167°W ![]() |
Cod SYG | W04000490 ![]() |
Cod OS | SN340232 ![]() |
Cod post | SA33 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Abernant (gwahaniaethu).
Saif Aber-nant ar ffordd gefn, saith milltir i'r gogledd-orllewin o dref Caerfyrddin.
Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Lucia, a cheir cofnod ati yn 1197 sy'n cyfeirio at gysylltiad a Phriordy Sant Teilyddog. Mae mynwent yr eglwys o faint anarferol, dros bedair erw a hanner, gyda nant yn rhedeg trwyddi. Gwaharddwyd claddu ar ochr ddwyreiniol y nant ers yr 19g pan gladdwyd cannoedd o bobl tref Caerfyrddin yno adeg y pla.
Gerllaw mae Castell Dwyran, lle cafwyd hyd i garreg goffa, yn dwyn yr arysgrif Ladin Memoria Voteporigis Protictoris a'r enw "Votecorigas" mewn llythrennau Ogam; yn ôl pob tebyg carreg fedd y Vortiporius (Gwrthefyr) sy'n cael ei gondemnio gan Gildas.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[5]