![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/e/e6/480px-WC-2014-Brasil.svg.png/640px-480px-WC-2014-Brasil.svg.png&w=640&q=50)
Cwpan y Byd Pêl-droed 2014
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA 2014 yn Brasil rhwng 12 Mehefin ac 13 Gorffennaf 2014. Dyma fydd yr ugeinfed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal a'r ail dro i Brasil gynnal y gystadleuaeth, ar ôl cynnal Cwpan y Byd 1950.
Copa do Mundo da FIFA Brasil 2014 | |
---|---|
![]() Logo Cwpan y Byd FIFA 2014 | |
Manylion | |
Cynhaliwyd | Brasil |
Dyddiadau | 12 Mehefin – 13 Gorffennaf |
Timau | 32 (o 5 ffederasiwns) |
Lleoliad(au) | 12 (mewn 12 dinas) |
Safleoedd Terfynol | |
Pencampwyr | ![]() |
Ail | ![]() |
Trydydd | ![]() |
Pedwerydd | ![]() |
Ystadegau | |
Gemau chwaraewyd | 64 |
Goliau a sgoriwyd | 171 (2.67 y gêm) |
Torf | 3,429,875 (53,592 y gêm) |
Prif sgoriwr(wyr) | ![]() (6 gôl) |
Chwaraewr gorau | ![]() |
Chwaraewr ifanc gorau | ![]() |
Golwr gorau | ![]() |
← 2010 2018 → |
Dechreuodd y broses o gyrraedd Brasil ar 15 Mehefin, 2011 wrth i Montserrat golli 2-5 gartref yn erbyn Belîs a daeth y gystadleuaeth i ben gyda'r rownd derfynol yn yr Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro ar 13 Gorffennaf 2014 wrth i'r Almaen drechu'r Ariannin 1-0 yn y rownd derfynol a thorri eu henwau ar y tlws am y pedwerydd tro yn eu hanes, ac wrth wneud hynny, yn dod y tîm cyntaf o Ewrop i godi'r tlws yn Ne America.
Dyma oedd y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd i'r dyfarnwyr allu alw ar dechnoleg llinell-gôl i ddyfarnu os yw'r bêl wedi croesi llinell gôl a hefyd y gallu i ddefnyddio ewyn diflannol ar gyfer ciciau rhydd.[1]
Roedd pob gwlad sydd wedi codi Cwpan y Byd yn y gorffennol wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd 2014 gyda'r Almaen (enillodd dair tlws fel Gorllewin Yr Almaen), Yr Ariannin, Brasil, Yr Eidal, Ffrainc, Lloegr, Sbaen ac Wrwgwai i gyd yn bresennol.
Dyma oedd y tro cyntaf i Bosnia a Hercegovina ymddangos yn y rowndiau terfynol.