Cwpan y Byd Pêl-droed 2018
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA 2018 yn Rwsia rhwng 14 Mehefin a 15 Gorffennaf 2018. Dyma oedd y 21fed Cwpan y Byd, ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion sydd yn cael ei drefnu gan FIFA. Dyma hefyd yr 11fed tro i'r gystadleuaeth cael ei chynnal yn Ewrop. Fe'i olynwyd gan gystadleuaeth Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 a leolwyd yn Qatar.
Ffeithiau sydyn Чемпионат мира по футболу 2018 (Chempionat mira po futbolu 2018), Manylion ...
Чемпионат мира по футболу 2018 (Chempionat mira po futbolu 2018) | |
---|---|
Manylion | |
Cynhaliwyd | Rwsia |
Dyddiadau | 14 Mehefin – 15 Gorffennaf |
Timau | 32 (o 5 ffederasiwns) |
Lleoliad(au) | 12 (mewn 11 dinas) |
Safleoedd Terfynol | |
Pencampwyr | Ffrainc (2il) |
Ail | Croatia |
Trydydd | Gwlad Belg |
Pedwerydd | Lloegr |
Ystadegau | |
Gemau chwaraewyd | 64 |
Goliau a sgoriwyd | 169 (2.64 y gêm) |
Torf | 3,031,768 (47,371 y gêm) |
Prif sgoriwr(wyr) | Harry Kane (6 gôl) |
Chwaraewr gorau | Luka Modrić |
Chwaraewr ifanc gorau | Kylian Mbappé |
Golwr gorau | Thibaut Courtois |
← 2014 2022 → |
Cau
Dechreuodd y broses o gyrraedd Rwsia ar 12 Mawrth, 2015 wrth i Timor Leste drechu Mongolia.
Daeth Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru'n 3ydd yn Grwp D, gydag 17 pwynt, yn dilyn Iwerddon a Serbia. Roedd Gwlad yr Iâ a Panama yn ymddangos yn y rowndiau terfynol am y tro cyntaf yn eu hanes tra bod cyn bencampwyr y byd, Yr Eidal, wedi methu sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol am y tro cyntaf ers 1958.