Kylian Mbappé
Chwaraewr pel-droed Ffrainc / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Kylian Mbappé Lottin (ganwyd 20 Rhagfyr 1998) yn bêl-droediwr proffesiynol o Ffrainc sy'n chwarae fel blaenwr i glwb Ligue 1 Paris Saint-Germain F.C. ac yn gapten tîm cenedlaethol Ffrainc. Mae Mbappé yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau'r byd. Ef yw'r wythfed uchaf sgoriwr gôl yn hanes Ligue 1.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Kylian Mbappé | |
---|---|
Ganwyd | 20 Rhagfyr 1998 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 178 centimetr |
Pwysau | 73 cilogram, 75 cilogram |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Best Young Player Award, Golden Boy |
Gwefan | https://kylianmbappe.com/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Paris Saint-Germain F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Ffrainc, Paris Saint-Germain F.C. |
Gwlad chwaraeon | Ffrainc |
Cau
Cafodd ei eni ym Mharis, yn fab i dad o Camerŵn, Wilfred Mbappé, a'i wraig Fayza Lamari.[1] [2] Mae ganddo fe ddau frawd sy'n bêl-droedwyr proffesiynol, Ethan Mbappé a Jirès Kembo Ekoko. Decheuodd Mbappé ei yrfa proffesiynnol yn 2015 gyda Monaco. Yn 2017, symudodd i PSG am 180 miliwn ewro. Gyda PSG, mae e wedi ennill 5 teitl Ligue 1 a tri Coupes de France. Mbappé sydd wedi sgori y mwyaf o goliau i PSG erioed.