![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/db/Chess_x0t45.svg/langcy-640px-Chess_x0t45.svg.png&w=640&q=50)
0
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhif a symbol sy'n dynodi absenoldeb swm yw 0 (dim neu sero). Yn y system ddegol, 0 yw'r prifolyn rhwng -1 ac 1 sy'n dynodi'r pwynt trawsnewid rhwng gwerthoedd positif a negatif.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Y gwrthwyneb ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | non-positive integer, cyfanrif, eilrif, non-negative integer, 0 number class, automorphic number, rhif Fibonacci, additive identity, rhif naturiol ![]() |
---|---|
Y gwrthwyneb | 0, Anfeidredd ![]() |
Rhan o | singleton of 0 ![]() |
![]() |
Cau
Mae gan sero briodweddau arbennig parthed y pedair proses rifyddol sylfaenol. Ni cheir newid i rif os câi 0 ei adio iddo neu ei dynnu oddi arno. Os lluosir rhif â 0, 0 yw'r ateb. Os rhennir 0 gan unrhyw rif, ac eithrio 0, 0 yw'r ateb. Ni diffinnir rhaniad gan 0.
Nid oedd gan yr hen Roegiaid na'r Rhufeiniaid gysyniad sero yn eu dulliau mathemateg. Tarddodd yr unigrif 0 mewn nodiant pwynt degol yn yr hen India, a chafodd ei ledaenu i'r Arabiaid ac yna'r Ewropeaid yn ystod yr Oesoedd Canol. Defnyddid symbolau tebyg gan y Maya a'r Babiloniaid i ddynodi gwerth sero.