Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Defnyddir etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru i ethol Aelodau o'r Senedd (AS), a'u defnyddir mewn rhyw ffurf ers etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) yn 1999. Cyflwynwyd ffiniau newydd ar gyfer yr etholiad yn 2007 ac ar hyn o bryd cynhwysant bedwar deg etholaeth a phum rhanbarth. Y pum rhanbarth etholiadol yw: Canol De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gogledd Cymru, a Gorllewin De Cymru, gyda'r pedwar deg etholaeth a restrir isod.[1] Digwyddodd yr etholiad diwethaf yn 2021.
Etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru | |
---|---|
Map o'r 40 etholaeth gyfredol (ochr chwith) a'r 5 rhanbarth etholiadol cyfredol (ochr dde) o Senedd Cymru | |
Categori | Etholaeth |
Lleoliad | Cymru |
Crëwyd gan | Deddf Llywodraeth Cymru 1998 |
Crëwyd | 12 Mai 1999; 24 o flynyddoedd yn ôl (1999-05-12) |
Nifer | 40 etholaeth 5 rhanbarth (ar ôl 2021) |
Llywodraeth | Senedd |
Llywodraeth Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Crëwyd yr etholaethau trwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, gyda ffiniau'r etholaethau Seneddol (San Steffan), fel yr oeddent yn 1999. Defnyddiwyd y ffiniau newydd hefyd ar gyfer etholiad cyffredinol yr DU yn 2010. Felly, rhwng etholiad y Cynulliad yn 2007 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2010, roedd gan etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau San Steffan ffiniau gwahanol. Datgysylltodd Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2010, y ddwy set o etholaethau, sy'n golygu na fydd newidiadau i un set yn effeithio'r set arall bellach. Mae hyn wedi caniatáu cynigion gwahanol ar gyfer etholaethau yng Nghymru, gyda chynigion gwahanol ar gyfer cynnydd y nifer o seddi yn y Senedd a lleihau y nifer o etholaethau San Steffan yng Nghymru.[2]
Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelod ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar yr etholaethau seneddol Ewropeaidd cyn 1999. Ym mhob etholiad cyffredinol o'r Senedd, mae gan pob etholydd ddwy bleidlais, un bleidlais etholaethol ac un bleidlais restr pleidiau ranbarthol. Mae pob etholaeth yn ethol un Aelod trwy'r system 'cyntaf i'r felin', a llenwir seddi ychwanegol y Senedd o'r rhestrau pleidiau caeedig, o dan ddull D'Hondt, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau, i greu rhywfaint o gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer pob rhanbarth. Ar y cyfan, etholir y chwe deg Aelod o'r Senedd o'r pedwar deg etholaeth a'r pum rhanbarth etholiadol, gan greu Senedd o bedwar deg AS etholaethol a dau ddeg AS ychwanegol. Cynrychiolir pob etholwr gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol.