Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987 ar 11 Mehefin 1987 i ethol 650 o Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin Y Deyrnas Unedig. Roedd buddugoliaeth y Blaid Geidwadol y trydydd o'r bron o dan arweinyddiaeth 'haearnaidd' Margaret Thatcher. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers i Robert Jenkinson arwain ei blaid yn 1820 i dair buddugoliaeth o'r bron.
Ffeithiau sydyn Pob un o'r 650 sedd ar gyfer Tŷ'r Cyffredin. 326 sedd i gael mwyafrif, Nifer a bleidleisiodd ...
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987
|
|
|
Pob un o'r 650 sedd ar gyfer Tŷ'r Cyffredin. 326 sedd i gael mwyafrif |
Nifer a bleidleisiodd |
75.3% |
|
Plaid 1af |
Ail blaid |
3ydd plaid |
|
|
|
|
Arweinydd |
Margaret Thatcher | Neil Kinnock | David Steel Y Blaid Ryddfrydol (uchod) David Owen (SDP) |
Plaid |
Ceidwadwyr |
Llafur |
Cynghrair SDP-Rhyddfrydwyr |
Arweinydd ers |
11 Chwefror 1975 | 2 Hydref 1983 | 7 Gorffennaf 1976 (Steel) 21 Mehefin 1983 (Owen) |
Sedd yr Arweinydd |
Finchley | Islwyn | Tweeddale Ettrick a Lauderdale (Steel) Plymouth Devonport (Owen) |
Seddi tro yma |
397 sedd, 42.4% | 209 sedd, 27.6% | 23 sedd, 25.4% |
Seddi a gipiwyd |
376 | 229 | 22 |
Newid yn y seddi |
21 | 20 | 1 |
Cyfans. pleidl. |
13,760,935 | 10,029,270 | 7,341,651 |
Canran |
42.2% | 30.8% | 22.6% |
Tuedd |
0.2% | 3.2% | 2.8% |
|
|
Cau
Trethi isel oedd thema ymgyrch y Ceidwadwyr, gydag economi a byddin gref. Roeddent hefyd yn uchel eu cloch fod diwethdra wedi gostwng o dan 3 miliwn am y tro cyntaf ers 1981 a chwyddiant yn 4% - ei isaf ers 20 mlynedd. Dyma'r blaid roedd y tabloids yn ei chefnogi, yn enwedig y 'Sun', a gynhaliodd ymgyrch gwrth-Lafur am fisoedd cyn yr etholiad, gyda'i phenawdau fel "Why I'm backing Kinnock, by Stalin".
Dychwelodd y Ceidwadwyr i'r Llywodaeth, gyda gostyngiad o 21 sedd yn unig, sef cyfanswm o 376 sedd. 229 oedd gan Llafur, o dan arweinyddiaeth y Cymro gwrth-Gymreig Neil Kinnock.