Cyniferydd deallusrwydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhif a ddefnyddir i ddynodi deallusrwydd yr unigolyn o'i gymharu â phobl eraill, yn seiliedig ar sgôr o ganlyniad i brofion safonedig,[1] yw cyniferydd deallusrwydd[2] (CD[2] neu IQ o'r Almaeneg Intelligenzquotient[3] neu'r Saesneg intelligence quotient).[4]
Bathwyd IQ gan y seicolegydd Almaenig William Stern mewn llyfr o 1912 i ddisgrifio'r dull o sgorio profion deallusrwydd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Breslau.[3] Yn hanesyddol, cafodd IQ ei gyfrifo drwy rannu oed meddyliol yr unigolyn, yn seiliedig ar ganlyniadau'r prawf deallusrwydd, ag oed cronolegol yr unigolyn, mewn blynyddoedd a misoedd, a lluosi'r gymhareb neu gyniferydd hwnnw â 100 i ganfod y sgôr IQ.[5] Er enghraifft, os yw plentyn 10 oed yn perfformio cystal â'r plentyn 12 oed cyfartalog ar y prawf, dosrennir y plentyn i IQ 12 / 10 × 100 = 120. Felly, IQ cyfartalog y boblogaeth yw 100, pan bo'r oed meddyliol yn hafal i'r oed cronolegol. Ni defnyddir y dull hwn bellach i gyfrifo IQ, ac eithrio ambell brawf i blant.[4] Mewn profion IQ modern, câi'r sgôr o'r prawf ei thrawsnewid yn ystadegol yn ddosraniad normal a chanddo gymedr 100 a gwyriad safonol 15.[6] O ganlyniad i'r dull hwn, dosrennir rhyw ddwy ran o dair o'r boblogaeth rhwng IQ 85 a 115, a rhyw 2.5 % yn uwch na 130 a 2.5 % yn is na 70.[7][8]
Amcangyfrif o ddeallusrwydd yw sgôr IQ; mae natur ddamcaniaethol y cysyniad "deallusrwydd" yn golygu nad oes modd canfod mesur diriaethol ohono, megis màs neu bellter.[9] Mae sgôr IQ yn gysylltiedig â ffactorau gan gynnwys maethiad,[10][11] statws economaidd-gymdeithasol y rhieni,[12][13] morbidrwydd a marwolaeth,[14][15] statws cymdeithasol y rhieni,[16] ac amgylchedd amenedigol.[17] Mae seicolegwyr a gwyddonwyr eraill wedi ymchwilio i natur etifeddol IQ am gan mlynedd, ond mae dadl o hyd ynglŷn ag amcangyfrifon o bwysigrwydd y ffactor hwn[18][19] a dulliau biolegol yr etifeddu.[20]
Defnyddir sgôr IQ wrth dderbyn disgyblion a myfyrwyr, asesu anabledd dysgu, ac ystyried ymgeiswyr am swyddi, ac mewn cyd-destun ymchwil i ragfynegi perfformiad mewn swyddi[21] ac incwm.[22] Defnyddir hefyd i astudio dosraniadau o ddeallusrwydd seicometrig mewn poblogaethau, a'r cydberthyniad rhwng IQ a newidion eraill. Mae sgorau ar brofion IQ, cyn cyfrifo'r IQ ei hun, wedi cynyddu mewn nifer o boblogaethau ar gyfradd sydd yn gymesur â thri phwynt IQ pob deng mlynedd ers dechrau'r 20g, a gelwir hyn yn effaith Flynn.