From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn ne-orllewin Affganistan a phrifddinas daleithiol Nimruz yw Zaranj (Perseg, Pashto a Balochi: زرنج) a saif ar y ffin ag Iran. Mae priffyrdd yn cysylltu Zaranj â Lashkargah i'r dwyrain, Farah i'r gogledd, a Zabol yn Iran i'r gorllewin. Lleolir Maes Awyr Zaranj ar gyrion y ddinas.
![]() | |
Math | dinas, tref ar y ffin |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+04:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Zaranj |
Gwlad | Affganistan |
Uwch y môr | 476 metr |
Cyfesurynnau | 30.96°N 61.86°E |
![]() | |
Yn ystod ymgyrch ymosodol y Taleban i orchfygu Affganistan yn 2021, Zaranj oedd y brifddinas daleithiol gyntaf i gwympo iddynt.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.