From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol David Hughes yw ysgol uwchradd fwyaf Ynys Môn. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref Porthaethwy, ar lannau'r Fenai.
Ysgol David Hughes | |
---|---|
Ysgol David Hughes | |
Arwyddair | Albam Exorna |
Sefydlwyd | 1603 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog,2B |
Pennaeth | Mr Emyr Williams |
Dirprwy Bennaethiaid | Mrs Nicola Hughes |
Miss Rachel Pursglove | |
Sylfaenydd | David Hughes |
Lleoliad | Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Cymru, LL59–5SS |
Disgyblion | 1000+ |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Llysoedd | Tudur, Llywelyn, Seiriol, Cybi |
Lliwiau | Du, gwyn a phiws |
Sefydlwyd yr ysgol ym 1603, yn wreiddiol fel Ysgol Ramadeg Rydd ym Miwmares. Erbyn 1963, gyda Chyngor Sir Fôn yr arwain y ffordd gydag ail-drefnu addysg uwchradd i'r patrwm cyfun, symudodd yr ysgol i Borthaethwy fel ysgol gyfun i fechgyn a merched.
David Hughes oedd sefydlydd ysgol ramadeg rydd Biwmares (neu'r Free Grammar School). Fe'i ganed yn 1561 neu 1536, ym mhlwyf Llantrisant a bu farw yn 1609. Mynychodd Rhydychen. Ymsefydlodd yn Norfolk a phenodwyd ef yn stiward maenor Woodrising tua 1596. Sefydlodd yr ysgol ym Miwmares yn 1602. Yn ei ewyllys dyddiedig 30 Medi 1609 , gwaddolodd yr ysgol a gwnaeth ddarpariaeth hefyd i sefydlu elusendy yn Llanerch-y-medd ond ym Miwmares y codwyd yr elusendy.
Gwasanaetha'r ysgol gymunedau glannau'r Fenai a thu hwnt. Ceir deg ysgol gynradd yn nhalgylch yr ysgol:
Mae pum bloc yn yr ysgol: A-D a'r Bloc Newydd. Yn 2006, agorwyd 'Canolfan Hamdden David Hughes' y tu cefn i'r ysgol, sy'n cael ei defnyddio gan yr ysgol a'r cyhoedd.
Caiff Ysgol David Hughes ei diffinio gan Lywodraeth Cymru fel 'Ysgol Uwchradd Ddwyieithog: Cateogri 2B'. Golyga hyn bod modd astudio 80% neu fwy o'r pynciau a gynnigir (ac eithrio'r Gymraeg a'r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg, ond addysgir yr holl bynciau yn Saesneg hefyd. Mewn ysgolion o'r fath y 'cyd-destun ieithyddol fydd yn pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd', yn ôl y Llywodraeth.[1]
Daw 33% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg ei hiaith, yn ôl Estyn.[2]
Noda Polisi Iaith yr ysgol: 'Defnyddir yr iaith Gymraeg i gyfathrebu â disgyblion ac athrawon lle bo hynny’n addas a naturiol. Anfonir pob gwybodaeth ysgrifenedig gan y Pennaeth i’r staff ac i’r rhieni yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Cynhelir pob gwasanaeth boreol ar gyfer y gwahanol grwpiau blwyddyn yn ddwyieithog. Gofynnir i’r staff a’r disgyblion sicrhau bod pob rhybudd, poster, arwydd a dogfen swyddogol yn ddwyieithog.' [3]
Mae 5 dosbarth i gyd sy'n sillafu 'Menai'.
Ers 2011, rhoddir 'Gwobr Goffa Dafydd Whitthall' yn flynyddol i ddisgybl o'r Chweched Dosbarth am ei gyfraniad/chyfraniad at Gymreictod yr ysgol, er cof am y cyn-brifathro.
Enillwyr:
Mae gan yr ysgol chweched dosbarth ag ynddo nifer uchel o ddisgyblion. Mae gwisg ysgol benodol ar gyfer disgyblion y chweched a phenodir prif ddisgyblion. Gwisg y chweched yw tei piws gyda streipiau du, crys gwyn a siwmper du sydd gyda logo yr ysgol.
Addysgir rhai o'r pynciau ar y cyd ag ysgolion eraill Môn a Gwynedd, ar safle'r ysgol hon a thu hwnt.
Mae llawer o bynciau newydd yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion y Chweched dosbarth gan gynnwys : Seicoleg, Cymdeithaseg, Y Gyfraith a mathemateg pellach
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.