From Wikipedia, the free encyclopedia
Traethawd ar fathemateg, a rannwyd i bymtheg 'llyfr', yw'r Elfennau gan y Groegwr Euclid; fe'i sgwennwyd, mae'n debyg, yn Alexandria, yr Aifft tua 300 CC. Mae'n gasgliad o ddiffiniadau, cynosodiadau, gosodiadau (theoremau a lluniadau), a sawl prawf o'r gosodiadau hyn. Mae'r llyfrau'n cwmpasu y ddau fath o'r hyn a adnabyddir heddiw fel geometreg Ewclidaidd: plân a solid[1], yn ogystal â damcaniaeth rhifau (elfennol) a llinellau anghymesur. Dyma'r gyfrol gyntaf y gwyddys amdano sy'n rhoi triniaeth ddiddwythol (deductive) i fathemateg, a hynny ar raddfa fawr. Ar sail y casgliad hwn y datblygodd rhesymeg a gwyddoniaeth fodern, ac ni chafwyd carreg filltir mor bwysig rhwng hynny a'r 19g.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Euclid |
Iaith | Hen Roeg |
Dechrau/Sefydlu | c. 3 g CC |
Genre | traethawd |
Prif bwnc | Geometreg Euclidaidd, mathemateg |
Yn cynnwys | Elements Book 1, Elements Book 2, Elements Book 3, Elements Book 4, Elements Book 5, Elements Book 6, Elements Book 7, Elements Book 8, Elements Book 9, Elements Book 10, Elements Book 11, Elements Book 12, Elements Book 13 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nododd sawl ysgolhaig mai dyma un o'r llyfrau mwyaf llwyddiannus a dylanwadol a welodd y byd erioed.[2][3][4]
Hwn oedd un o'r llyfrau cyntaf i gael ei argraffu yn 1482, a chredir ei fod yn ail i'r Beibl o ran sawl argraffiad a wnaed: ymhell dros fil.[4][5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.