From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynysoedd oddi ar arfordir gogledd-gorllewinol yr Alban yw Ynysoedd Allanol Heledd neu Yr Ynys Hir, (Gaeleg yr Alban: Na h-Eileanan Siar, Saesneg: Outer Hebrides). Noder fod Na h-Eileanan Siar weithiau yn cael ei ddefnyddio am y cyfan o Ynysoedd Heledd. An Cliseam ar ynys Na Hearadh (Harris) yw copa uchaf yr ynysoedd. Yr enw ar yr etholaeth seneddol (y DU) yw Na h-Eileanan an Iar.
Math | ynysfor, un o gynghorau'r Alban, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area |
---|---|
Prifddinas | Steòrnabhagh |
Poblogaeth | 26,720 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 3,058.7026 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 57.76°N 7.02°W |
Cod SYG | S12000013 |
GB-ELS | |
Yr ynysoedd hyn yw cadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban.
Ystyr "heledd" yw "pwll o ddŵr hallt" a cheir y gair "hal" neu "hel" (sef halen) ar ddechrau Hel-edd.[1] Mae'n bosib, hefyd, ei fod yn tarddu o'r gair Gaeleg am "ynys", sef Eilean.
Yr ynysoedd sydd a phobl yn byw arnynt yw:
Ynys | Poblogaeth (2001) |
Leòdhas a Na Hearadh (Lewis a Harris) | 19,918 |
De Uist | 1,818 |
Gogledd Uist | 1,271 |
Benbecula | 1,219 |
Barraigh | 1,078 |
Sgalpaigh na Hearadh | 322 |
Bernera Fawr | 233 |
Griomasaigh | 201 |
Beàrnaraigh | 136 |
Eirisgeidh | 133 |
Bhatarsaigh | 94 |
Baile Sear | 49 |
Grimsay, De-ddwyrain Benbecula | 19 |
Flodaigh | 11 |
CYFANSWM (2001) | 26,502 |
Ymhlith yr ynysoedd sydd bellach heb boblogaeth, mae ynysoedd Sant Kilda, y pellaf tua'r gorllewin, sy'n awr yn Safle Treftadaeth y Byd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.