Ynys o darddiad folcanig yn ne Cefnfor Iwerydd yw Saint Helena. Fe'i lleolir tua 1,950 km i'r gorllewin o dde-orllewin Affrica. Mae'n ffurfio rhan o Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha, tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig sy'n cynnwys Ynys Ascension, 1,000 km i'r gogledd-orllewin o Saint Helena, ac ynysoedd Tristan da Cunha, 2,100 km i'r de.

Saint Helena
Baner Saint Helena Arfbais Saint Helena
Baner Arfbais
Arwyddair: "Loyal and Unshakeable"
Anthem: "God Save the Queen"
"My Saint Helena Island" (answyddogol)
Lleoliad Saint Helena
Lleoliad Saint Helena
Prifddinas Jamestown
Dinas fwyaf Half Tree Hollow
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg
Llywodraeth Tiriogaeth dramor y DU
- Brenhines Elisabeth II
- Llywodraethwr Mark Andrew Capes
Tiriogaeth Prydain
- Siarter

1659
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
122 km² (-)
dibwys
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2011
 - Cyfrifiad 2008
 - Dwysedd
 
4,250 (-)
4,255
35/km² (-)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif -
- (-)
- (-)
Indecs Datblygiad Dynol (-) - (-)  -
Arian cyfred Punt Saint Helena (SHP)
Cylchfa amser
 - Haf
GMT (UTC+0)
Côd ISO y wlad .sh
Côd ffôn +290

Darganfuwyd Saint Helena ym 1502 gan y Portiwgaliaid. Enwyd yr ynys ar ôl Helena o Gaergystennin. Fe'i gwladychwyd gan Gwmni Prydeinig Dwyrain India ym 1659. Mae nifer o garcharorion wedi cael eu halltudio i'r ynys, er enghraifft Napoleon Bonaparte o 1815 hyd 1821.

Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.