Ymerodraeth Trebizond

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ymerodraeth Trebizond

Sefydlwyd Ymerodraeth Trebizond (Groeg: Βασίλειον τής Τραπεζούντας, yn 1204, wedi i'r Ymerodraeth Fysantaidd ymrannu'n nifer o ddarnau yn dilyn cipio dinas Caergystennin.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Daeth i ben ...
Ymerodraeth Trebizond
Enghraifft o:gwlad ar un adeg 
Daeth i ben1461 
CrefyddYr eglwys uniongred ddwyreiniol 
Dechrau/Sefydlu1204 
Rhagflaenwyd ganyr Ymerodraeth Fysantaidd 
Olynwyd ganyr Ymerodraeth Otomanaidd 
Thumb
Rhagflaenyddyr Ymerodraeth Fysantaidd 
OlynyddTrebizond Eyalet 
Enw brodorolΑυτοκρατορία της Τραπεζούντας 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Cipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr ar anogaeth Fenis yn ystod y Bedwaredd Groesgad yn 1204, a sefydlasant hwy eu hymerodraeth ei hunain, yr Ymerodraeth Ladin, yng Nghaergystennin a rhai o diriogaethau'r Ymerodraeth Fysantaidd. Un o'r rhannau yr ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd iddynt oedd Ymerodraeth Trebizond, gyda'r brifddinas yn Trebizond (Trabzon yn Nhwrci yn awr). Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Alexius I, ŵyr yr ymerawdwr Bysantaidd Andronikos I Komnenos, a gymerodd feddiant ar ddinasoedd Groegaidd Trebizond a Sinope a Paphlagonia.

Wedi i ddinas Baghdad gael ei dinistrio gan Hulagu Khan yn 1258, Trebizond oedd pen dwyreiniol Ffordd y Sidan, ac yn ystod teyrnasiad Alexios III (1349 - 1390) daeth yn un o ganolfannau masnach pwysicaf y byd ac yn gyfoethog iawn. Parhaodd ymerodraeth Trebizond hyd 1461, pan gymerwyd meddiant ar ei thiriogaethau gan yr Ymerodraeth Otomanaidd.

Thumb
Ymerodraeth Trebizond, yr Ymerodraeth Ladin, Ymerodraeth Nicea ac Unbennaeth Epirus yn 1204
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.