Carnolyn eilrif-fyseddog (Lladin: Artiodactyla) sy'n gyfystyr â'r genws Bison yn is-deulu'r bucholion (neu Bovinae) yw'r bual, yr ych gwyllt neu'r beison. Dwy rywogaeth sy'n goroesi: y bual Americanaidd (a rennir yn ddwy is-rywogaeth: bual y gwastadedd a bual y coed) a'r bual Ewropeaidd. O'r pedair rhywogaeth a ddifodwyd, bu tair ohonynt (Bison antiquus, B. latifrons a B. occidentalis) yn byw yng Ngogledd America a'r llall, bual y stepdir (B. priscus), yn byw ar stepdiroedd o orllewin Ewrop drwy ganol a dwyrain Asia hyd at Ogledd America.[1][2] Roedd y ddwy rywogaeth arall ar fin diflannu yn ddiweddar, ond bellach y maent yn cael eu diogelu mewn gwarchodfeydd.

Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Rhywogaethau ...
Bual
Amrediad amseryddol: 2–0 Miliwn o fl. CP
Pg
Pleistosenaidd Cynnar – Diweddar
Thumb
Y bual Americanaidd
(Bison bison)
Thumb
Y bual Ewropeaidd
(Bison bonasus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Bovinae
Genws: Bison
Rhywogaethau

B. bison
B. bonasus
B. antiquus
B. latifrons
B. occidentalis
B. palaeosinensis
B. priscus

Cau

O'r ddwy rywogaeth sydd wedi goroesi, mae'r bual Americanaidd (B. bison) i'w ganfod yng Ngogledd America'n unig; dyma'r math mwyaf niferus. Cam-alwyd ef yn "fyfflo" droeon - yn anghywir felly - er nad yw'n perthyn yn agos ato. Mae gan B. bison ddwy isrywogaeth: bual y gwastatiroedd (B. b. bison) a bual y coed (B. b. athabascae) a gaiff ei enw o "Barc y Coed", Canada. Ailgyflwynwyd y bual Ewropeaidd (B. bonasus) i Ewrop ychydig yn ôl, yn ardal y Cawcasws (ardal y ffin rhwng Ewrop ac Asia).

Geirdarddiad

Daw'r gair yn y bôn o'r Lladin būbalus, trwy'r Llydaweg Canol.[3]

Bual Ewropeaidd

Y bual Ewropeaidd (Bison bonasus) yw'r mamal mwyaf o faint sy'n byw ar dir Ewrop. Mae'n perthyn yn agos i'r bual Americanaidd, ond mae ganddo goesau hirach a chorff sy'n llai cydnerth. Yn llawn oed, mae'r gwryw yn sefyll 1.82 m ar ei ysgwydd ac yn mesur tua 2.75 m o hyd. Mae'r gwryw yn pwyso 400920 kg a'r fenyw yn pwyso 300540 kg. Mae gan y ddwy ryw bennau mawr a chyrn byrion sy'n troi i fyny. Nid yw'r crwb mor amlwg â chefn y bual Americanaidd. Mae ganddo flew hir sy'n tyfu ar y gwddf a'r tal, a barf fer ar yr ên. Yn y gwanwyn, maent yn tyfu haen ychwanegol o flew i amddiffyn rhag yr oerfel.

Roedd y bual yn niferus yn Ewrop ers yr oesoedd cynhanesyddol hyd gychwyn y cyfnod Cristnogol. Cafodd ei hela am gig a'i yrru o'r tir gan ffermwyr, ac erbyn y 11g dim ond dau yrr oedd ar ôl, rhai cannoedd o filod yn unig. Erbyn y flwyddyn 1927, llai na hanner cant o fuail oedd yn byw yn y gwyllt.[4] Sefydlwyd cymdeithas ryngwladol i amddiffyn y rhywogaeth ym 1932, ac ers hynny tyfai'r niferoedd mewn sŵau a gwarchodfeydd coedwigol. Lladdwyd y bual Ewropeaidd gwyllt olaf gan herwheliwr. Yn ddiweddarach yn yr 20g, cafodd buail o'r sŵ eu hailgyflwyno i'w cynefin naturiol. Triga'r mwyafrif o fuail Ewropeaidd yng nghoedwig cyntefig olaf Ewrop ym Mharc Cenedlaethol Bialowieza yng Ngwlad Pwyl. Mae hefyd rhaglenni yn ddiweddar i ailgyflwyno'r bual i ardaloedd yn Rwsia, Belarws, Cirgistan, Lithwania, a'r Wcráin.

Anifail y coedwig ydyw, ac mae'n bwyta dail, rhedyn, blagur, a rhisgl. Fel arfer maent yn byw ger llennyrch gwlyb ac yno'n pori ar laswellt, mwsogl, llysiau, a deiliant eraill. Yn ystod y gwanwyn, yr haf, a'r hydref, treuliasant y mwyafrif o'u hamser yn pori. Yng Nghoedwig Bialowieza bu traddodiad ers canrifoedd o bobl yn porthi'r buail â gwair yn y gaeaf. Heddiw, mae gwarcheidwaid natur yn darparu gwair, ceirch, a betys siwgr i fuail yn y gaeaf.

Mae buail Ewropeaidd benywol a'u lloi yn byw mewn gyrroedd o 20 i 30. Mae'r gwrywod, neu'r teirw, yn byw ar ben eu hunain am y mwyafrif o'r flwyddyn. Ar ddechrau'r tymor paru, ym mis Awst, ymuna'r gwrywod â'r gyrroedd ac maent yn ymladd ei gilydd er cael benyw. Gall un gwryw cymryd tua deuddeg o fenywod i gyplu. Esgora'r fenyw ar un llo, neu weithiau dau, ar ôl cyfnod torogi o 9 i 10 mis. Yn ystod y tymor lloea, tua Mai i Orffennaf, mae'r fenyw yn gadael y gyr. Mae gan y bual Ewropeaidd hyd oes o 25 mlynedd neu fwy.

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.