From Wikipedia, the free encyclopedia
Clefyd a achosir gan facteriwm heintus iawn yw'r pâs.[1] I gychwyn, mae'r symptomau'n debyg iawn i annwyd, gyda'r trwyn yn rhedeg, y tymheredd yn codi a pheswch ysgafn. Yn lle gwella, mae peswch cas yn datblygu sydd yn ysgwyd y corff ac yn parhau am wythnosau. Yn dilyn pesychiad hir, yn amal fe glywir swn uchel wrth i'r claf o'r diwedd tynnu anadl, sy'n rhoi yr enw Saesneg i'r afiechyd, sef whooping cough. Fe all barhau am ddeg wythnos[2] Ar ôl y peswch caled, mae'r claf yn teimlo'n wan a llesg, weithiau'n chwydu, ac fe all dorri asenau hyd yn oed.[3] Mewn plant o dan flwydd oed mae'r peswch weithiau ddim i'w glywed ond mae cyfnodau o beidio anadlu'n datblygu.[4] Mae'r salwch yn amlygu ei hunan saith i ddeg diwrnod wedi'r heintiad. Er nad yw 'r brechiad yn amddiffyn yn llwyr pob tro, mae'r symptomau yn ysgafnach wedi ei gael.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | commensal bacterial infectious disease, Bordetella infections |
Lladdwyd | 58,700 |
Arbenigedd meddygol | Afiechydon heintiol |
Achos | Bordetella pertussis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enw'r bacteriwm sy'n achosi'r pâs yw Bordetella pertussis Mae'n lledu drwy'r awyr wrth i'r claf beswch.[5][6] Mae'r claf yn gallu trosglwyddo'r haint hyd at tair wythnos i fis wedi dechrau'r symptomau. O ddefnyddio gwrthfiotig dyw'r claf ddim yn heintus ar ôl 5 niwrnod.[7] Fe wneir diagnosis labordy gan ddefnyddio sampl o gefn y llwnc a'r trwyn. Weithiau tyfir y bacteriwm o'r sampl a weithiau defnyddir adwaith cadwynol polymeras (Polymerase chain reaction).[8]
Brechiad yw'r arf orau i amddiffyn pobol rhag y pâs.[9] Fe ddechreuir y broses pan mae'r plentyn rhwng chwech ac wyth wythnos oed, ac fe gwblheir drwy roi pedwar dos cyn cyrraedd dwy flwydd oed.[10] Wrth i effaith y brechiad wanhau dros amser fe argymhellir rhoi ambell ddos arall i blant hŷn ac oedolion.[11] Weithiau defnyddir gwrthfiotig i geisio amddiffyn rhai bregus sydd yn agored i ddal yr haint.[12] Mae gwrthfiotigau o fudd i'r claf yn y tair wythnos cyntaf o'r afiechyd; fel arall nid ydynt o fawr werth. Serch hynny, maent yn cael eu defnyddio hyd at chwech wythnos wedi dechreu'r symptomau mewn plant o dan flwydd oed a mewn merched beichiog. Y gwrhfiotegau a ddefnyddir fel rheol yw erythromycin, azithromycin. clarithromycin neu trimethoprim/sulfamethoxazole. Gwan yw'r dystiolaeth am werth unrhyw ymyrraeth arall.[13] Bydd angen triniaeth ysbyty ar nifer o blant o dan flwydd oed.
Amcangyfrir bod 16.3 miliwn o bobl ar draws y byd wefi eu heintio gan y pâs yn 2015. Mae'r rhan fwyaf yn digwydd ymhlith y tlodion o bob oed mewn gwledydd difreintiedig. Yn 2015 bu farw 58,700 o'r clefyd, sydd yn ostyngiad sylweddol o'r 138,000 a fu yn 1990.[14] Mae bron 0.5% o blant o dan flwydd oed yn marw. Mae'r cofnodion cynharaf o'r clefyd yn digwydd yn y 16g. Darganfyddwyd y bacteriwm ym 1904. Mae'r brechiad wedi bod ar gael oddi ar y 1940au.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.