gŵr Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Tywysog Philip, Dug Caeredin KG KT OM GBE AC QSO PC (ganwyd Tywysog Philip o Wlad Groeg a Denmarc, 10 Mehefin 1921 – 9 Ebrill 2021)[1] yn aelod o deulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, yn ŵr i Frenhines Elisabeth II.
Y Tywysog Philip | |
---|---|
Dug Caeredin | |
Philip yn 1992 | |
Tywysog Gydweddog y Deyrnas Unedig ac eraill teyrnasoedd y Gymanwlad | |
6 Chwefror 1952 – 9 Ebrill 2021 | |
Ganwyd | Y Tywysog Philip o Wlad Groeg a Denmarc 21 Mehefin 1921 Mon Repos, Corfu, Gwlad Groeg |
Bu farw | 9 Ebrill 2021 oed) Castell Windsor, Berkshire, Lloegr | (99
Priod | Elisabeth II (pr. 1947) |
Plant | |
Teulu |
|
Tad | Y Tywysog Andreas o Wlad Groeg a Denmarc |
Mam | Alis o Battenberg |
Ganwyd Philip yn Mon Repos, Corfu, Gwlad Groeg.[2]
Roedd yn wreiddiol yn dywysog brenhinol Gwlad Groeg a Denmarc. Ers iddo newid ei genedligrwydd, cafodd ei adnabod fel Philip Mountbatten.
Ar 19 Tachwedd 1947 fe'i gwnaed yn Farchog y Gardas Aur,[3] a chael yr hawl i gael ei gyfeirio ato gyda'r arddull "Uchelder Brenhinol".[4]
Ar 20 Tachwedd 1947 priododd y Dywysoges Elizabeth, edling y Brenin Siôr VI, a'i ddyrchafu yn Ddug Caeredin, Iarll Meirionnydd a Barwn Greenwich. Cafodd ei urddo yn Dywysog y Deyrnas Unedig ym 1957.
Bu'r Tywysog Philip ar wasanaeth gweithredol yn y Llynges Frenhinol drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel oedd ar y llong ryfel HMS Whelp yn y Môr Tawel, a fu'n bresennol ym Mae Tokyo ar gyfer ildio Siapan ar 2 Medi 1945.
Ef oedd yr aelod cyntaf o'r Teulu Brenhinol Prydeinig i gael ei gyfweld ar y teledu ym mis Mai 1961. Teithiodd gyda'r Frenhines ar bob un o'i theithiau brenhinol.
Cafodd y Frenhines Elizabeth a'r Tywysog Philip pedwar o blant: Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru; Y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol; Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog a'r Tywysog Edward, Iarll Wessex. Mae ganddynt hefyd wyth o wyrion ac wyth o or-wyrion.
Ymddeolodd o'i ddyletswyddau brenhinol ar 2 Awst 2017, yn 96 oed.
Ym mis Chwefror 2021 aeth i'r ysbyty am driniaeth gan aros yno am fis, cyn mynd adre ar 16 Mawrth.[5]
Bu farw ar fore Gwener, 9 Ebrill 2021 yng Nghastell Windsor. [6] Cyhoeddwyd y newyddion ganol dydd ar gyfrif Twitter y teulu brenhinol.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.