Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyrhaeddodd milwyr o Normandi Gymru yn 1051, pan ddaeth Ralff o Mantes (nai edward Gyffeswr) yn iarll Henffordd, gan sefydlu rhan o'i fyddin ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.[1] Olynydd brenhinoedd Sacsonaidd oedd Gwilym Goncwerwr, ac felly nid oedd ganddo fryd ar feddiannu Cymru, a phwrpas amddiffynnol oedd i'w gtynlluniau yn gosod ei fyddin ar y ffin hwn.
O achos cwymp Gruffudd ap Llywelyn ym 1063 doedd Cymru ddim yn wlad gref pan gyrhaeddodd Gwilym Loegr a meddiannu coron y deyrnas honno yn 1066 ar ôl ennill Brwydr Hastings. Sefydlodd iarllaethau yng Nghaer (iarllaeth Caer, Amwythig (iarllaeth Amwythig) a Henffordd (iarllaeth Henffordd). Ond wedi peth amser, brwydrodd yr ieirll hyn yn erbyn y Cymry, gan ehangu eu tir ac adeiladu cestyll. O ganlyniad daeth brenhiniaeth Gwent i ben ym 1086 ac aeth tiriogaeth teyrnas Gwynedd yn llai a llai. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y Normaniaid mewn llawysgrifau Cymreig yn 1072 pan laddwyd Maredudd ab Owain o Ddeheubarth gan y Normaniaid.
Er mwyn cadw'r heddwch, cafodd rhai o arweinwyr y Cymry eu cydnabod gan y brenin newydd: Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth ac Iestyn ap Gwrgant ym Morgannwg, ond newidiodd y sefyllfa ar ôl i Wilym farw ym 1087. Cipiwyd Morgannwg a Brycheiniog ac aeth Roger o Montgomery, iarll Amwythig, i dde Dyfed lle cododd gastell Penfro.
Bu Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd yn llwyddiannus am gyfnod yn ymladd yn erbyn y Normaniaid, ac yr un fath Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth.
Nid oedd gan fab Gwilym, sef Gwilym II yr un parch at y Cymry, a gan nad oedd yn anrhydeddu cytundebau ei dad ymestynnodd i mewn i rannau dwyreiniol o Gymru, gan gynnwys ymdrechion Bernard de Neufmarché (c. 1050–c. 1125) a lwyddodd i gipio'r tir o'r ffin hyd at Aberhonddu erbyn 1093. lle cododd gastell iddo'i hun a sefydlu Arglwyddiaeth Brycheiniog er mwyn ceisio rheoli'r ardal. Ymladdodd Rhys ap Tewdwr yn ei erbyn, a bu farw; o hynny ymlaen, cynyddodd gafael y Normaniaid ar ddwyrain Deheubarth. Cododd Arnulf Montgomery gastell ym Mhenfro a phenodi Gerald o Windsor (taid Gerallt Gymro) yn gwnstabl.
Yng nghanolbarth Cymru y sefydlodd Philip de Breos. Syrthiodd Morgannwg a oedd yn un o bedair prif deyrnas Cymru, i ddwylo Robert Fitz Hammo.
Erbyn 1135 roedd y rhan fwyaf o'r de yn nwylo'r Normaniaid, ond nid am hir!
Pan goronwyd Harri II, o linach Angyw yn 1154, ac yn sicr erbyn i Loegr golli Normandi yn 1204, daeth terfyn ar drefn y Normaniaid yng Nghymru.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.