nofel wyddonias a sgwennwyd rhwng 1967 - 68 From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofel wyddonias neu ffug-wyddonol gan Owain Owain yw'r Dydd Olaf a gyhoeddwyd yn 1976 gan Wasg Gomer, Llandysul. Cafodd ei hailargraffu yn 2021 yn Gymraeg, a chafwyd addasiad Saesneg a Phwyleg yn 2024.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, nofel apocolyptaidd |
---|---|
Awdur | Owain Owain |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1976, Awst 2021 |
ISBN | 0715102897 |
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Genre | Nofel ffuglen wyddonol |
Lleoliad cyhoeddi | Abertawe |
Prif bwnc | deallusrwydd artiffisial, robot dynoid, cyflyru llwyr, totalitariaeth, rhyddid meddwl, gwyliadwraeth gorfodol gan y wladwriaeth |
Lleoliad y gwaith | Cymru |
Rhyddhawyd albwm o gerddi a seiliwyd ar gynnwys y nofel gan Gwenno Saunders ar label annibynnol Peski Records yn Hydref 2014 a gwerthwyd y cyfan. Cafodd ei ail-ryddhau ledled y byd yn 2015 gan Heavenly Recordings.
Mae un o'r prif gymeriadau'n berson du, galluog, sy'n anarferol iawn i lyfr o'r cyfnod hwn.
Dywedodd y beirniad llenyddol Pennar Davies am y nofel (gweler y broliant) Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg." [1] Mewn adolygiad o'r gyfrol yn 2014 dywedodd Miriam Elin Jones, 'I ddweud y gwir, mae rhagymadrodd Pennar Davies i’r nofel hon yn dweud y cwbl. Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu... clasur Cymraeg, heb os.' [2] Mewn cyfweliad gyda Gwenno Saunders a mab Owain, sef Robin Llwyd ab Owain dywedwyd i'r gwaith gael ei ysgrifennu yn 1967/8 ond na chyhoeddwyd y gwaith tan i'r awdur ddanfon y proflenni at Pennar Davies, wedi methu cael unrhyw wasg i gyhoeddi'r nofel. 9 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1976, wedi derbyn broliant Pennar Davies, cyhoeddwyd y nofel.[3]
Oddeutu 2013 fe'i digideiddiwyd ar ffurf elyfr nid-am-arian o wefan Y Twll (Carl Morris) a gwefan Slebog.[4]
Yn 2020 fe'i cyfieithwyd i'r Gernyweg gan yr awdur Sam Brown[5], fersiwn ar ffurf PDF i'w lawrlwytho am ddim.
Yng Ngorffennaf 2021 cafwyd ailargraffiad Cymraeg gan Wasg y Bwthyn, wedi i'r llyfr fod allan o brint ers bron i 50 mlynedd.[6][7]
Yn 2024 cyhoeddwyd fersiwn Saesneg gan Parthian Books, a gyfieithiad gan Emyr Wallace Humphreys. Yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd fersiwn Pwyleg o'r Dydd Olaf yn 2024 gan Melin Bapur Books ac Olga Geppert-Biernat, fersiwn a gyfieithwyd gan Marta Listewnik yn 2014.
Mae'r stori'n ymdrin a bachgen o'r enw Marc a phytiau o'i ddyddiaduron a llythyrau ato, sy'n nodi gafael y 'Brawd Mawr' arno ef, a llithra bob yn hyn a hyn wedi ei gyflyru i iaith synthetig y Frawdoliaeth: ‘Fratolish Hiang Perpeski'. mae hyn yn brawf o effeithiolrwydd y cyflyru y ceisia ddianc rhagddo - dianc oddi wrth y dyfodol dystopaidd. Ymgais sydd yma gan yr awdur i'n rhybuddio o'r dull tawel mae'r 'Ddelwedd Fawr' yn cyflyru ei dinasyddion, drwy eu moldio'n un corff totalitaraidd, unffurf, neu fel y dywed Owain dro ar ôl tro yn ei gerddi - y 'llwydni llwyd'.
Ceir yma hefyd stori garu rhwng y cymeriadau, gyda rhai'n derbyn pliwtoniwm i wrth-weithio'n erbyn y cyflyru, tra bod eraill yn ymgorffori'n rhan o'r Frawdoliaeth, gan gynnwys y dyn Cwansa, sy'n troi o fod yn lledmerydd dros hawliau lleiafrifoedd i fod yn eu rheoli. Isthema arall yw a ellir cyfiawnhau gweithred niweidiol, negyddol fel aberthu unigolyn er mwyn achub dynoliaeth. Penderfyniad Marc yw peidio a gwneud hynny, a thry'r byd i ddwylo'r Frawdoliaeth.
Ymhen peth amser, daw oes y robotiaid i ben, o bosib oherwydd rhyfel niwclear, ac o'r ychydig rai sy'n weddill, gwelid oes newydd, a'r unig destun neu wybodaeth sydd wedi goroesi yw dyddiaduron a llythyrau Marc, a guddiodd mewn cod mewn iaith fechan (y Gymraeg) nad oedd yr Uchel Gyfrifydd yn ei deall. Gwnaed hyn gyda chymorth rhyw gant o ffrindiau oedd wedi derbyn y pliwtoniwm, ac Alffa-Omega 'pwy bynnag (neu beth bynnag) yw hwnnw'.
Mae'r nofel yn rhagweld nifer o bethau sydd wedi cael eu gwireddu ers 1967-8, gan gynnwys:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.