y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Drych Cristianogawl (sic) oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru. Yn ôl traddodiad cafodd ei gyhoeddi yn ddirgel mewn ogof ar Benrhyn Rhiwledyn yn y Creuddyn yn yr hen Sir Gaernarfon yn 1585.[1] Yr awdur oedd Robert Gwyn neu Gruffydd Robert, sy'n enwog am ei lyfr gramadeg Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg (1567).
Enghraifft o'r canlynol | fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad |
---|---|
Awdur | Gruffydd Robert, Robert Gwyn |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1588 |
Cysylltir gyda | gwasg argraffu gudd Rhiwledyn |
Dechrau/Sefydlu | 1585 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Traethawd byr ar gariad at Dduw o safbwynt Catholig yw'r Drych Cristianogawl. Cafodd ei sgwennu gan Gruffydd yn Yr Eidal lle bu'n gyfyffeswr i'r Cardinal Carlo Borromeo ac yn Ganon Diwinyddol yn Eglwys Gadeiriol Milan. Fel nifer o'i gyd-Gatholigion ffoes i'r cyfandir er mwyn osgoi'r erledigaeth ar y ffydd yng ngwledydd Prydain. Yr argraffydd oedd Rhosier Smyth, cydymaith Gruffydd. Yn ôl y ddalen teitl cafodd ei gyhoeddi yn Rouen, ond ceisio taflu llwch yn llygaid yr awdurdodau Protestannaidd oedd y cyhoeddwyr. Anfonwyd y traethawd fesul taflen mewn ysgrifen i Gymru.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.