William Marshal, Iarll 1af Penfro

From Wikipedia, the free encyclopedia

William Marshal, Iarll 1af Penfro

Milwr ac uchelwr Anglo-Normanaidd oedd William Marshal, 1af Iarll Penfro (1146 - 14 Mai 1219) (hefyd: William the Marshal a Guillaume le Maréchal). Galwyd ef gan yr hanesydd Steven Langton "y marchog mwyaf a fu erioed". Gwasanaethodd bedwar o frenhinoedd Lloegr gan dyfu o fod yn neb i fod yn un o ddynion mwyaf pwerus Ewrop ar y pryd. Galwyd ef gan bobloedd led led Ewrop fel "y Marshal".

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
William Marshal, Iarll 1af Penfro
Thumb
Ganwydc. 1146 
Wiltshire 
Bu farw14 Mai 1219 
Caversham 
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr 
Galwedigaethmarchog, gwleidydd 
SwyddIarll Farsial 
TadJohn Marshal 
MamSibyl of Salisbury 
PriodIsabel de Clare 
PlantIsabel Marshal, Richard Marshal, 3ydd iarll Pembroke, William Marshal, 2il Iarll Penfro, Maud Marshal, Eva Marshal, Gilbert Marshal, 4ydd iarll Penfro, Walter Marshal, 5ed iarll Penfro, Anselm Marshal, Joan Marshal, Sibyl Marshal 
Cau

Priododd Isabel de Clare, merch Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro, ym 1189. Roedd yn dad i William Marshal, 2il Iarll Penfro.

Gwasanaethodd Richard a John, brenin Lloegr yn ffyddlon, gan amddiffyn yr ail rhag barwniau gwrthryfelgar Ffrainc a Lloegr yn Rhyfel 1af y Barwniaid. Roedd hefyd yn bresennol pan arwyddwyd y Magna Carta yn 1215. Ar farwolaeth John yn 1216, enwebwyd Marshal, a oedd yn 70 oed erbyn hynny, yn Ddirprwy Frenin y frenhiniaeth ac amddiffynnwr y brenin ifanc, Harri III. Gorchfygodd y gwrthryfelwyr a'u cefnogwyr Ffrengig, ac ail-gyhoeddodd y Magna Carta er mwyn cadarnhau'r heddwch. Gwaethygodd ei iechyd yn 1219, ac ar 14 Mai bu farw yn ei faenor yn Caversham, ger Reading. Ei olynydd fel Dirprwy Frenin oedd Hubert de Burgh, Iarll 1af Caint, ac olynwyd ef yn ei iarllaeth gan ei bum mab.

Gweler hefyd

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.