From Wikipedia, the free encyclopedia
Traddodiad o Wica, sydd yn grefydd Neo-baganaidd, yw Wica Alecsandraidd. Sefydlwyd ef gan Alex Sanders (a elwir yn "Brenin y Gwrachod" weithiau[1]) gyda'i wraig Maxine Sanders yn y 1960au yn y Deyrnas Unedig. Mae Wica Alecsandraidd yn debyg iawn i Wica Gardneraidd, ac ystyrir ef fel y traddodiad mwyaf hysbys yn y grefydd.[2]
Seilir y traddodiad yn fawr ar Wica Gardneraidd, gan y cafodd Sanders hyfforddiant ynddo a hynny i'r Radd Gyntaf.[3] Mae hefyd yn cynnwys elfennau o ddewiniaeth seremonïol a Chabbala Hermetig, a astudiodd Sanders ar ei ben ei hun.
Daeth enw'r traddodiad o enw Alex Sanders ei hun ac o Lyfrgell Alecsandria, llyfrgell gyfrin hynafol, a oedd yn un o lyfrgelloedd y byd.[3][4] Dewiswyd i ddefnyddio enw'r llyfrgell ar ôl i Sanders ei gweld fel ymgais cynnar i ddod â gwybodaeth a challineb y byd at ei gilydd mewn un lle.[5] Mae Maxine Sanders yn cofio'r cafodd yr enw'i ddewis pan ddechreuodd myfyriwr Sanders, Stewart Farrar, ysgrifennu'r llyfr What Witches Do. "Gofynnodd Stewart beth ddylai Gwrachod sydd wedi cael eu hynydu i mewn i'n Cwfen alw eu hunain; ar ôl peth ddadlau, penderfynodd [Alex] i ddefnyddio "Alecsandraidd", a'r oedd Alex a minnau'n hoffi ef. Cyn hynny, roeddem yn ddigon hapus i gael ein galw'n Wrachod".[6]
Ymarferir Wica Alecsandraidd y tu allan i'r DU hefyd, gan gynnwys Canada ac Unol Daleithiau America. Mae Encyclopedia Mystica yn dweud "o ganlyniad i gyhoeddusrwydd negyddol Sanders, nid oedd Wica Alecsandraidd yr un mor boblogaidd â Wica Gardneraidd. Ers y 1980au, nid oedd dim cysylltiad â Sanders ei hun gan gwfenni Alecsandraidd Americanaidd. Mae cwfenni Alecsandraidd wedi gwneud yn well yng Nghanada lle'r oeddent yn gryf cyn cyhoeddusrwydd negyddol Sanders".[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.