From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd, diplomydd, a chyfreithiwr o'r Unol Daleithiau oedd Walter Frederick "Fritz" Mondale (5 Ionawr 1928 - 19 Ebrill 2021) a wasanaethodd fel 42ain is-lywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1977 a 1981, o dan yr Arlywydd Jimmy Carter.[1][2] Roedd Mondale yn seneddwr o’r Unol Daleithiau dros Minnesota rhwng 1964 a 1976. Roedd e'n enwebai’r Blaid Ddemocrataidd yn yr etholiad arlywyddol 1984, ond collodd i Ronald Reagan.
Walter Mondale | |
---|---|
Ganwyd | Walter Frederick Mondale 5 Ionawr 1928 Ceylon |
Bu farw | 19 Ebrill 2021 Minneapolis |
Man preswyl | Minneapolis, Number One Observatory Circle |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, diplomydd, bywgraffydd |
Swydd | Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, llysgennad yr Unol Daleithiau i Japan, Minnesota Attorney General, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Theodore Sigvaard Mondale |
Mam | Claribel Hope Cowan |
Priod | Joan Mondale |
Plant | Eleanor Mondale, Ted Mondale |
Gwobr/au | Gwobr Person y Flwyddyn, Siambr Fasnach America yn Japan, Order of the Paulownia Flowers |
llofnod | |
Cafodd ei eni yn Ceylon, Minnesota, yn fab i'r gweinidog Methodistiaidd Theodore Sigvaard Mondale a'i wraig Claribel Hope (née Cowan), athrawes cerddoriaeth.[3][4][5] Cafodd ei addysg yng Ngholeg Macalester ac ym Mhrifysgol Minnesota.[6]
Priododd Joan Adams ym 1955; bu farw Joan yn 2014. Roedd eu ferch, Eleanor, yn actores a chyflwynydd teledu a radio, a fu farw o ganser yr ymennydd yn 2011. Mae Ted Mondale (g. 1957), mab Walter a Joan, yn gwleidydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.