Vladimir Lenin

gwleidydd, chwyldroadwr (1870-1924) From Wikipedia, the free encyclopedia

Vladimir Lenin

Chwyldroadwr o Rwsia, arweinydd Chwyldro Hydref a Chadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl o 1917 tan 1924 oedd Vladimir Ilyich Lenin (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Ле́нин, trawslythrennu: Fladimir Lenin)[1], enw iawn Vladimir Ilyich Ul'yanov (Rwsieg: Влади́мир Ильи́ч Улья́нов; trawslythrennu: Fladimir Ilitsh Wlianof)[1] (10 / 22 Ebrill 1870 - 21 Ionawr 1924). Sefydlodd y Blaid Bolsiefic gan ei harwain at fuddugoliaeth yn chwyldroadau Rwsia. Ystyrir ef yn un o ffigyrau pwysicaf datblygiad Sosialiaeth wyddonol ynghyd â Karl Marx a Friedrich Engels. Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau gwleidyddol ac athronyddol, a gelwir ei syniadaeth yn Leniniaeth.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Llais ...
Vladimir Lenin
Thumb
FfugenwЛенин, Ильин, Н. Ленин, Старик, К. Тулин, Lenin 
LlaisLenin - What Is Soviet Power.ogg 
GanwydВладимир Ильич Ульянов 
22 Ebrill 1870 
Ulyanovsk 
Bu farw21 Ionawr 1924 
Bolshiye Gorki 
Man preswylPodolsk, St Petersburg, Moscfa, Shushenskoe, Schwabing, Llundain 
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Yr Undeb Sofietaidd 
Alma mater
  • Faculty of Law, Saint Petersburg State University
  • Prifysgol Imperial Kazan
  • Simbirsk Classical Gymnasium 
Galwedigaethgwleidydd, llenor, economegydd, cyfreithiwr, chwyldroadwr, newyddiadurwr, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol 
SwyddChairman of the Council of People's Commissars of the Russian SFSR, Chairman of the Council of People's Commissars, president of the Council of Labour and Defence of the USSR, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, legal document assistant 
Cyflogwr
  • Prifysgol Saint Petersburg 
Adnabyddus amImperialism, the Highest Stage of Capitalism 
Prif ddylanwadKarl Marx, Friedrich Engels, Georgi Plekhanov, Alexander Ivanovich Herzen, Georg Hegel, Karl Kautsky, Joseph Dietzgen, J. A. Hobson 
Taldra165 centimetr 
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Democrataidd-Sosialaidd Rwsia, Plaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia (Bolsiefic), Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd 
Mudiadgwrth-imperialaeth, anti-capitalism, Marcsiaeth, class struggle 
TadIlya Ulyanov 
MamMaria Ulyanova 
PriodNadezhda Krupskaya 
LlinachBlank family 
Gwobr/auWork order of Corasmia, honorary citizen of Kazan 
llofnod
Thumb
Cau

Bywyd cynnar

Ganwyd Vladimir Ilyich Ulyanov ar 22 Ebrill 1870 yn Simbirsk. Roedd ei dad, Ilya Nikolaevich Ulyanov, yn athro mathemateg a ffiseg ac yn arolygydd ysgolion. Roedd ei deulu yn gymysg o ran cefndir ethnig: ei dad yn Kalmyk, ei fam o dras Almaenig, ac aelodau eraill y teulu yn Iddewon, yn Chuvashiaid, yn Rwsiaid ac yn Swediaid. Roedd teulu ei fam, Mariya Aleksandrovna Blank, yn hanu o Lübeck yn yr Almaen yn wreiddiol. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam yn Iddew a oedd wedi troi at Gristnogaeth Uniongred. Dienyddiwyd brawd hŷn Lenin, Aleksandr, yn 1887 oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn i lofruddio Tsar Alexander III. Effeithiodd hyn yn fawr ar Lenin, a daeth yn fwy radicalaidd yn ei ddaliadau gwleidyddol. Yn yr un flwyddyn fe'i diarddelwyd o Brifysgol Kazan am gymryd rhan mewn protestiadau myfyrwyr ac ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cysylltiad rhyngddo â'i frawd. Dychwelodd i'r brifysgol ym 1891 i gwblhau gradd yn y gyfraith.

Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref Shushenskoye, ger Minusinsk yn Siberia, o 1897 hyd 1900.

Llyfryddiaeth

  • Что делать? (1902)
  • Шаг вперёд, два шага назад (1904)
  • Материализм и эмпириокритицизм (1909)
  • Y wladwriaeth a'r chwyldro (1917)
  • Imperialaeth, Cyfnod uchaf Cyfalafiaeth (1917)
  • Детская болезнь "левизны" в коммунизме (1920)

Astudiaethau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.