asana sefyll, mewn ioga From Wikipedia, the free encyclopedia
Safle'r corff (neu asana) mewn ioga yw Uttanasana (Sansgrit: उत्तानासन; IAST uttānāsana) neu Sefyll a Phlygu Ymlaen,[1] gydag amrywiadau fel Padahastasana lle gafaelir ym mysedd y traed. Asana sefyll ydyw, a chaiff ei ddefnyddio mewn ioga modern fel ymarfer corff.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit उत्तान uttāna, "ymestyn gryn dipyn";[2] ac आसन; âsana, "osgo neu siap (y corff)".[3]
Mae Uttanasana yn asana modern, a welwyd gyntaf yn yr 20g. Darlunnir osgo debyg o'r enw Uttānāsana yn y gyfrol Sritattvanidhi o'r 19g ond mae'n wahanol i'r ystum modern (yn gorwedd ar y cefn, gyda'r penelinoedd yn cyffwrdd â'r pengliniau a'r dwylo y tu ôl i'r gwddf).[4] Disgrifir yr osgo fodern yn Yoga Makaranda 1934 Krishnamacharya,[5] ac yng ngweithiau ei ddisgyblion, Light on Yoga ganBKS Iyengar ym 1966[6] ac Ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois.[2][7] Fodd bynnag, mae Theos Bernard yn darlunio'r asana cysylltiedig "Padhahasthasana" yn ei adroddiad ym 1944 o'i brofiad o ioga hatha ar y ffin rhwng India a Tibet, gan awgrymu bodolaeth traddodiad ar wahân.[8]
Gellir llithro'n llyfn i fewn i'r asana yma o safle sefyll y Tadasana, gan blygu ymlaen yn y cluniau nes y gellir gosod cledrau'r dwylo ar y llawr, ac yn y pen draw y tu ôl i'r sodlau.[6]
Mae Ardha Uttanasana yn gam hanner ffordd, gyda'r torso'n llorweddol a'r cledrau yn gorffwys ar y migyrne.[9]
Mae gan Niralamba Uttanasana y dwylo'n cyffwrdd â chanol y corff yn hytrach nag yn ymestyn i lawr.[10]
Yn Padahastasana mae'r dwylo o dan fysedd y traed a'r traed eu hunain, gyda chledrau'r dwyl ar i fyny.[11]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.