ffilm ddrama a elwir hefyd yn ffilm ffantasi gan Catherine Hardwicke a gyhoeddwyd yn 2008 From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm ffantasi-rhamantus Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Catherine Hardwicke yw Twilight (2008), ac mae'n addasiad o'r nofel o'r un enw gan Stephenie Meyer. Bella Swan ac Edward Cullen (a chwaraewyd gan Kristen Stewart a Robert Pattinson, yn ôl eu trefn) yw'r ymgyrchwyr. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar laslances a fampir sy'n cwympo mewn cariad garu'i gilydd.
Cyfarwyddwr | Catherine Hardwicke |
---|---|
Cynhyrchydd | Mark Morgan Greg Mooradian Wyck Godfrey |
Ysgrifennwr | Nofel: Stephenie Meyer Screenplay: Melissa Rosenberg |
Serennu | Kristen Stewart Robert Pattinson |
Cerddoriaeth | Carter Burwell |
Sinematograffeg | Elliot Davis |
Golygydd | Nancy Richardson |
Dylunio | |
Dosbarthydd | Summit Entertainment (UDA) Entertainment One Ltd. (DU)[1] |
Dyddiad rhyddhau | Tachwedd 21, 2008 (Unol Daleithiau, Canada) Rhagfyr 11, 2008 (Awstralia) Rhagfyr 19, 2008 (Deyrnas Unedig) Rhagfyr 26, 2008 (Sealand Newydd) |
Gwlad | UD |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | UD$37 miliwn |
Olynydd | New Moon |
Roedd y ffilm yn datblygu am dair blynedd gan Paramount Pictures cyn cael ei gynhyrchu gan Summit Entertainment. Addaswyd y nofel gan Melissa Rosenberg yn 2007, a ffilmiodd Twilight yn Washington ac Oregon yn 2008. Rhyddhawyd Twilight yn sinemâu ar 21 Tachwedd 2008,[2] ac enillodd $35.7 miliwn ar ei ddydd cyntaf.[3] Rhyddhawyd y trac sain ar 4 Tachwedd 2008.[4]
Mae Isabella (Bella) Swan yn symud i Forks, tref fechan sy'n agos i arfordir Washington, i fyw gyda'i thad, Charlie, ar ôl i'w mam, Renée, ail-briodi chwaraewr pêl fas. Mae llawer o fyfyrwyr yn dod yn ffrindiau gyda Bella yn ei hysgol gyfun newydd, ond mae diddordeb gyda hi â'r siblingiaid Cullen dirgel. Mae Bella yn eistedd wrth Edward Cullen mewn dosbarth bioleg ar ei dyddiad cyntaf; nid yw Edward yn ei hoffi, sy'n drysu Bella. Ar ôl ychydig o ddyddiau, bron â tharwyd Bella gan fan yn y maes parcio. Mae Edward yn symud yn gyflym iawn o bellter i stopio'r fan â'i law. Mae Edward yn gwrthod i esbonio'i weithred ac yn rhybuddio Bella nad i ddod yn ffrindiau gyda fe.
Ar ôl llawer o ymchwil, mae Bella yn darganfod mai fampir yw Edward, ond mae'n bwyta gwaed anifeiliaid. Mae'r ddau yn cwympo mewn cariad gyda'i gilydd ac mae Edward yn cyflwyno Bella i'w deulu; Carlisle, Esme, Alice, Jasper, Emmett, a Rosali. Wedyn, mae James, Victoria, a Laurent yn cyrraedd - tri fampirs nomadig. Mae diddordeb gyda James, sy'n fampir olrheiniwr, mewn amddiffyn Edward dros Bella, sy'n ddynol, ac mae eisiau arno ei herlid fel sbort. Mae Edward a'i deulu yn mentro eu bywydau er mwyn diogelu Bella, ond mae James yn ei holrhain i Phoenix, ble mae hi'n cuddio, ac yn ei denu mewn magl o achos bod James yn dweud ei fod yn cadw mam Bella fel gwystl. Mae James yn ymladd gyda Bella ac yn brathu'i harddwrn ond mae Edward, yn ogystal â'i deulu, yn cyrraedd cyn gallai James yn ei lladd. Dinistrir James, ac mae Edward yn sugno gwenwyn James o arddwrn Bella sy'n ei hatal o ddod yn fampir. Deuir â Bella i'r ysbyty. Ar ôl i bawb ddychwelyd i Forks, mae Bella ac Edward yn mynychu eu dawns ysgol. Yno, mae Bela'n dweud wrth Edward ei bod hi am fod yn fampir ond mae Edward yn gwrthod. Mae'r ffilm yn gorffen gyda Victoria yn gwylio'r cwpl yn dawnsio, yn cynllwynio i ddial y llofruddiaeth ei charwr, James.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.