Tri Chryfion Byd
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anterliwt o waith y dramodydd Twm o'r Nant yw Tri Chryfion Byd sy'n dyddio o 1789.
Dyddiad cynharaf | 1789 |
---|---|
Awdur | Twm o'r Nant |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Genre | Dramâu Cymraeg |
"Tri Chryfion Byd, sef Tlodi, Cariad ac Angau" yw eglurhad y teitl, a phrif gymeriadau'r anterliwt. "Wel bellach crybwyllaf mi dystiaf am Destyn, O'r dull yn deg hylwydd mae'r trefniad yn Câlyn, Am dri chryfion byd ddwys Olud mewn Sulw, Sef Tlodi, a Chariad, ag Angeu tra chwerw."[1]
Llwyfannwyd yr anterliwt gan Gwmni Theatr Cymru ym 1972. Defnyddiwyd y ddau deitl i werthu'r sioe, gyda'r ail yn nodi'n syml "Twm o'r Nant Charles Williams a dwsin o gwmpeini diddan yn actio, canu, dawnsio" i hwyluso'r marchnata, ar gefn llwyddiant y diddanwr a'r actor o Ynys Môn.[2]
Dyma gynhyrchiad cyntaf John Pierce Jones fel "actor proffesiynol" ac mae'n sôn am y profiad yn ei hunangofiant:
"Ar y Llun cyntaf ym mis Hydref 1972, codais yn anarferol o fore [...] a cherdded yn sionc tuag at adeilad y Tabernacl ym Mangor. [...] Pan agorais y drws a cherdded i mewn i'r ystafell gwelais wynebau a oedd yn gyfarwydd i mi fel hoelion wyth y byd actio Cymraeg.[...] Rhan fechan iawn oedd gen i yn rhan gyntaf yr anterliwt. Roedd Wynford [Ellis Owen] yn actio Angau, felly roedd ganddo 'olygfa rymus efo Marged Esli, oedd yn chwarae Cariad. Ar un achlysur roedd Wynford wedi gorfod mynd i weithio ar un o raglenni plant HTV yng Nghaerdydd, a doedd o ddim ar gael i berfformio y noson honno. Gofynnodd Wilbert i Charles [Williams] a fuasai yn fy nghyfarwyddo i i chwarae'r rhan - roedd gan Angau fwgwd mawr ar ffurf penglog yn cuddio'i wyneb, felly doedd neb yn gwybod pwy oedd yn y wisg. Bûm yn ymarfer y rhan felly am sawl pnawn efo Charles (oedd yn gyfarwyddwr arbennig) a Marged Esli. Daeth y noson fawr, ac er mai fi oedd yn actio Angau, enw Wynford oedd yn y rhaglen. Drwy gyd-ddigwyddiad Ilwyr, roedd adolygydd Y Faner yn y gynulleidfa y noson honno, ar wythnos ganlynol roedd canmoliaeth fawr i'r cynhyrchiad yn y papur. Tynnwyd sylw yn arbennig at berfformiad 'Wynford Ellis Owen' - felly cefais fy adolygiad cyntaf fel actor o dan enw actor arall."[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.