pentref yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Trefonnen[1] neu Yr As Fach (Saesneg: Nash). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 281.
Saif Trefonnen i'r de o ddinas Casnewydd, ar lan ddwyreiniol aber Afon Wysg. Ceir Goleudy Dwyrain Wysg a nifer o ffatrioedd yma. Arferai bywoliaeth plwyf Trefonnen fod yn eiddo i Goleg Eton, a dalodd am adeiladu'r eglwys.
Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Gwlybtiroedd Casnewydd, a agorwyd ym mis Mawrth 2000.
Arferid defnyddio'r ffurf "Tre'ronnen" yn Gymraeg, yn ogystal a'r ffurf "Y Nais" - o'r Saesneg Nash a ddaeth o'r Lladin Fraxino (1154-8).[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Trefonnen (pob oed) (284) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefonnen) (11) | 4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefonnen) (241) | 84.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefonnen) (34) | 30.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.