Traffordd yr M48

From Wikipedia, the free encyclopedia

Traffordd yr M48

Traffordd sy'n cysylltu Sir Fynwy yng Nghymru a Swydd Gaerloyw yn Lloegr yw'r M48.

Ffeithiau sydyn Math, Cysylltir gyda ...
Traffordd yr M48
Thumb
Mathtraffordd 
Cysylltir gydaTraffordd yr M4 
Sefydlwyd
  • 1966 
Daearyddiaeth
Gwlad Cymru
 Lloegr
Cyfesurynnau51.6179°N 2.6927°W 
Hyd12 milltir 
Thumb
Cau
Thumb
Yr M48 yn croesi Pont Gwy o Gymru i Loegr, gyda Phont Hafren yn y cefndir

Traffordd gymharol fyr yw'r M48. Mae'n gadael Traffordd yr M4 gerllaw Magwyr, ac yn arwain tua'r dwyrain i'r gogledd o'r M4. Ychydig i'r de o dref Cas-gwent, mae'n croesi'r ffin i Loegr dros Afon Gwy, yna'n croesi Afon Hafren ar draws Pont Hafren, y bont wreiddiol. Mae'r M4 yn croesi ymhellach i'r de, ar hyd Ail Groesfan Hafren. Ceir tollfa yma, ond dim ond wrth deithio tua'r gorllewin. Ymuna a'r M4 eto gerllaw Olveston yn Swydd Gaerloyw.

Adeiladwyd y draffordd yma fel rhan o'r M4 yn 1966. Cafodd y rhif M48 yn 1996, pan agorwyd rhan newydd o'r M4 dros Ail Groesfan Hafren.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am ffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.