From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd o Loegr oedd Thomas Traherne (10 Hydref 1636 – 10 Hydref 1674) sy'n nodedig fel un o'r clerigwyr Anglicanaidd, gyda'r Eingl-Gymry George Herbert ac Henry Vaughan, a fu'n cyfansoddi cerddi cyfriniol yn yr 17g. Caiff ei gyfri hefyd ymhlith y beirdd Metaffisegol.
Thomas Traherne | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1636 Henffordd |
Bu farw | 10 Hydref 1674 Teddington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, diwinydd, llenor |
Swydd | caplan |
Ganwyd yn Henffordd yn fab i grydd. Astudiodd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, a chafodd ei ordeinio yn 1660. Aeth i weinidogaethu yn Credenhill, Swydd Henffordd, yn 1661 a daliodd y plwyf hwnnw am weddill ei oes. Yn y cyfnod 1669–74 aeth i fyw yn Llundain ac yn Teddington, Middlesex, yn gaplan i Syr Orlando Bridgeman, yr hwn oedd yn arglwydd geidwad o 1667 i 1672. Penodwyd Traherne yn weinidog Eglwys Teddington yn 1672, a chafodd ei gladdu yno pan fu farw dwy flynedd yn hwyrach, tua 37 oed.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.