awdur a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Clerigwr, llenor, golygydd a bardd o Gymru oedd Thomas Jones (1756 - 16 Mehefin 1820). Roedd yn un o lenorion mwyaf galluog y Methodistiaid yng Nghymru. Fe'i ganwyd yng Nghaerwys yn Sir y Fflint. Roedd yn ddyn amryddawn a oedd yn fardd ar y mesurau caeth, yn emynydd, yn hanesydd, yn ddiwinydd ac yn gofiannydd.
Ganed Thomas Jones ym Mhenucha, ger Caerwys, yn 1756. Yn ddyn ieuanc derbyniodd addysg glasurol yn Nhreffynnon gyda'r bwriad o fynd yn offeiriad yn yr eglwys sefydliedig. Ond dylanwadwyd arno'n gynnar gan y Methodistiaid a daeth yn un ohonynt gan roi heibio unrhyw fwriad o gael ei ordeinio yn Eglwys Loegr. Roedd hynny cyn i'r Methodistiaid ddechrau ordeinio ac felly arhosodd yn lleygwr. Dechreuodd bregethu yn 1773. Yn 1784 cyfarfu â Thomas Charles o'r Bala. Cafodd ddylanwad cryf ar Charles a chyfrannodd at loywi ei iaith. Llafuriodd gyda'r Methodistiaid fel cynghorwr yn Rhuthun, Dinbych a'r Wyddgrug. Roedd yn un o'r cynharaf o'r Methodistiaid i gael eu neilltuo i weini'r Ordinhadau yn 1811 ac o hynny hyd ddiwedd ei oes llafuriodd i adeiladu'r eglwys Fethodistaidd ar seiliau cadarn. Yn ddiwinyddol gorweddai rhwng eithafion Arminiaeth ac Uchel Galfiniaeth gwŷr fel John Elias. Bu'n briod dair gwaith.
Gwnaeth Thomas Jones gyfraniad sylweddol o ran cynnwys ac arddull i ddiwinyddiaeth Gymraeg. Roedd yn wrthwynebydd cryf i Arminiaeth, a oedd yn amlwg ymhlith y Wesleyaid, a chyfieithodd The Christian in Complete Armour (1655-1662) gan William Gurnal i'r Gymraeg dan y teitl Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth (1796-1820). Ei gampwaith yn ddi-os yw'r gyfrol enfawr a gyhoeddodd yn 1813 ar hanes merthyron y ffydd Brotestanaidd, Hanes Diwigwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr (neu Hanes y Merthyron).
Gyda Thomas Charles o'r Bala bu'n olygydd y Drysorfa Ysbrydol, a ddaeth allan am y tro cyntaf yn 1799 fel cyhoeddiad trimisol. Ysgrifennodd yn ogystal nifer o emynau, yn cynnwys "Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw" ac "O! arwain fy enaid i'r dyfroedd."
Ysgrifennodd hunangofiant diddorol a darllenadwy (1814) a chofiant i'w gyfaill Thomas Charles, un o'r gorau o'i fath. Cyhoeddodd eiriadur Saesneg a Chymraeg eithaf safonol yn 1800. Roedd hefyd yn fardd o safon; y cywydd "I'r Aderyn Bronfraith" (1773) yw'r enghraifft orau o'i gerddi.
Argraffodd Thomas Jones ran sylweddol o'i waith ar wasg a sefydlodd ei hun yn ei gartref yn Rhuthun yn 1804. Gwerthodd y wasg i Thomas Gee'r hynaf, tad yr argraffydd enwog Thomas Gee, yn 1813.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.